DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG
A GYFLWYNWYD AR 04/02/15
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2015-0328 Y Bil Cynllunio a'r Gymraeg
Cyflwynwyd gan:
Russell George
Llyr Gruffydd
William Powell
Tanysgrifwyr:
Suzy Davies 10/03/15
Rhun ap Iorwerth 11/03/15
Peter Black 12/03/2015
Aled Roberts 12/03/2015
Paul Davies 12/03/2015
Eluned Parrott 17/03/2015
Y Bil Cynllunio a'r Gymraeg
Mae'r Cynulliad hwn:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y cynigion canlynol:
(a) rhoi'r grym i awdurdodau cynllunio lleol ganiatáu neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith iaith, drwy wneud y Gymraeg yn un o'r ystyriaethau perthnasol statudol;
(b) rhoi rhagor o ryddid i awdurdodau cynllunio lleol bennu targedau tai eu hunain sy'n adlewyrchu anghenion lleol yn well;
(c) sefydlu pwrpas statudol i'r system gynllunio;
(d) sefydlu cyfundrefn statudol o asesiadau effaith iaith Gymraeg ar gyfer ceisiadau cynllunio sylweddol yn ogystal â chynlluniau datblygu; ac
(e) mesurau i sicrhau bod tai yn fwy fforddiadwy i bobl leol.