02/02/2010 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 9 Chwefror a dydd Mercher 10 Chwefror 2010

Hanner tymor 15 - 19 Chwefror 2010

Dydd Mawrth 23 Chwefror a dydd Mercher 24 Chwefror 2010

Dydd Mawrth 2 Mawrth a dydd Mercher 3 Mawrth 2010

………………………………………….

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Dadl ar Setliad yr Heddlu (60 munud)

  • Dadl a chymeradwyo’r gorchymyn drafft, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2010 o dan Reol Sefydlog 22.34 (60 munud)

  • Cynnig ar Gonfensiwn Cymru Gyfan (120 munud)  

Dydd Mercher 10 Chwefror 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (30 munud)  

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Cynnig i ethol aelod i’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog (1 munud)

  • Cynnig i benodi archwilwyr ar gyfer cyfrifon Archwilydd Cenedlaethol Cymru (5 munud)

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar ei Ymchwiliad i’r Defnydd o Welyau Haul yng Nghymru a’u Rheoleiddio (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig  (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

Hanner tymor 15 - 19 Chwefror 2010

Dydd Mawrth 23 Chwefror

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo’r rheoliadau: The Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010 (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ynghylch yr ymrwymiad i leihau allyriadau carbon (15 munud)

  • Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) Dai Lloyd, yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur (5 munud)

  • Dadl ar Ardaloedd Gwledig Anghysbell (60 munud)

  • Dadl ar Ddatblygu Cynaliadwy a Dangosyddion (60 munud)

Dydd Mercher 24 Chwefror

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros y Gyllideb (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth (30 munud)  

Busnes y Cynulliad:

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

Dydd Mawrth 2 Mawrth 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Dadl ar Glastir (60 munud)

Dydd Mercher 3 March 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 munud)  

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig  (120 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)