07/05/2019 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 07/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/05/2019

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn


Dydd Mawrth 14 Mai 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia (45 Munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru - Gwerthfawrogi ein Hiechyd (60 munud)

 

Dydd Mercher 15 Mai 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Cynnal Hyder yn y Weithdrefn Safonau (30 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Lynne Neagle (Torfaen) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 21 Mai 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Glasbrintiau Cyfiawnder (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Ganolfan Fyd-eang ar Ragoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gynllun y Grŵp Arbenigwyr ar Ddiogelwch Adeiladau  (45 munud)

Dydd Mercher 22 Mai 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2017-18 (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)

 

TORIAD: DYDD LLUN 27 MAI – DYDD SUL 2 MEHEFIN 2019

 

Dydd Mawrth 4 Mehefin 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Brexit a'n Tir (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (45 munud)

 

Dydd Mercher 5 Mehefin 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)