11/10/2022 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 11/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/10/2022   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 18 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith - darparu rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol arloesol Cymru (30 munu)
  • Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 (15 munud)
  • Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 (10 munud)
  • Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022 (15 munud)
  • Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22 (60 munud)

 

 

 

 

Dydd Mercher 19 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus – Comisiynu Cartrefi Gofal (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1294: Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 25 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol ar gyfer Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru – Buddsoddi Uchelgeisiol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2021-22 (60 munud)

 

 

 

 

Dydd Mercher 26 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Tom Giffard (Gorllewin De Cymru) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 8 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wella Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Polisi Ynni (30 munud)
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon (30 munud)
  • Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog (60 munud)

         

 

 

 

Dydd Mercher 9 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Codi’r bar - Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol 2021/22 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Heledd Fychan (Canol De Cymru) (30 munud)