16/10/2012 - Datganiad a Cyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 12/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 23 Hydref a dydd Mercher 24 Hydref 2012

Toriad: 29 Hydref 2012 – 4 Tachwedd 2012

Dydd Mawrth 6 Tachwedd a dydd Mercher 7 Tachwedd 2012

Dydd Mawrth 13 Tachwedd a dydd Mercher 14 Tachwedd 2012

****************************************************************************************

Dydd Mawrth 23 Hydref 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)  

  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Canlyniadau Ymgynghoriad Cynnal Cymru Fyw (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i “Adolygu Ardrethi Busnes Cymru: Cymell Twf” (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-drefnu Addysg Uwch (30 munud)

  • Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), yn cytuno i gynyddu'r math o wariant a gyfeirir ato gan Reol Sefydlog 26.69(ii), sy'n codi o ganlyniad i'r Bil (5 munud).

  • Dadl: Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (60 munud)

  • Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaeyau sy'n deillio o Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), yn cytuno i gynyddu'r math o wariant a gyfeirir ato gan Reol Sefydlog 26.69(ii), sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. (5 munud)

  • Dadl: Y Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol (60 munud)

Dydd Mercher 24 Hydref 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

  • Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (5 munud)

  • Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Ardoll Gwm Cnoi (Darren Millar) (60 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf’ (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer – Lynne Neagle (Tor-faen) (30 munud)

Dydd Mawrth 6 Tachwedd 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)  

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – Adroddiad Cynnydd Chwe Mis (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y Diweddaraf ar y Strategaeth Wyddoniaeth (30 munud)

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl (15 munud)

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio yn ymwneud â Buddsoddiad Gwyrdd (15 munud)

  • Dadl: Ymgynghoriad ar Bolisi Adfywio yn y Dyfodol (60 munud)

  • Dadl: Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (60 munud)

Dydd Mercher 7 Tachwedd 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Datganiad gan Peter Black: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) (30 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer – Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud)

Dydd Mawrth 13 Tachwedd 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)  

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun "Gwella Ysgolion", a gyhoeddwyd ar 10 Hydref 2012 (30 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Newydd i Adolygu Ymarfer Plant – Diogelu ac Amddiffyn Plant yn Well (30 munud)

  • Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 (120 munud)

Dydd Mercher 14 Tachwedd 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty (45 munud)

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14 (30 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru' (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) (30 munud)