Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 25 Hydref 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol i Gymru (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru – Buddsoddi Uchelgeisiol (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
- Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol (30 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2021-22 (60 munud)
Dydd Mercher 26 Hydref 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
- Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynnig i ethol Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn (5 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) (60 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Tom Giffard (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 8 Tachwedd 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Gynllun Ariannol a Rhagolygon Economaidd Llywodraeth y DU (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella Effeithlonrwydd Ynni Cartrefi Cymru (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wella Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Polisi Ynni (30 munud)
- Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (15 munud)
- Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon (45 munud)
- Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog (60 munud)
Dydd Mercher 9 Tachwedd 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
- Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)]
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Codi’r bar - Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu (60 munud)
- Dadl ar Adroddiad Blynyddol 2021/22 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Heledd Fychan (Canol De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 15 Tachwedd 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnig Gofal Plant Cymru (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cenedl o Ail Gyfle (30 munud)
Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
- Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)]
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cysylltedd digidol – band eang (60 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Pwysau costau byw (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)