18/10/2022 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 18/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2022   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 25 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol i Gymru (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru – Buddsoddi Uchelgeisiol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol (30 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2021-22 (60 munud)

 

 

 

 

Dydd Mercher 26 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i ethol Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Tom Giffard (Gorllewin De Cymru) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 8 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Gynllun Ariannol a Rhagolygon Economaidd Llywodraeth y DU (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella Effeithlonrwydd Ynni Cartrefi Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wella Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Polisi Ynni (30 munud)
  • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (15 munud)
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon (45 munud)
  • Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog (60 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 9 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)]
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Codi’r bar - Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol 2021/22 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Heledd Fychan (Canol De Cymru) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 15 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnig Gofal Plant Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cenedl o Ail Gyfle (30 munud)

 

         

 

Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)]
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cysylltedd digidol – band eang (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Pwysau costau byw (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)