20/05/2008 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Hanner Tymor yr Haf 26 Mai - 1 Mehefin 2008

Dydd Mawrth 3 Mehefin a dydd Mercher 4 Mehefin 2008

Dydd Mawrth 10 Mehefin a dydd Mercher 11 Mehefin 2008

Dydd Mawrth 17 Mehefin a dydd Mercher 18 Mehefin

Dydd Mawrth 3 Mehefin 2008

Busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad a chyhoeddiad busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Comisiwn Iechyd Cymru (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Y Mesur Newid yn yr Hinsawdd (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd Meddwl (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Datblygu Cynaliadwy (30 munud)

Dydd Mercher 4 Mehefin 2008

Busnes y Llywodraeth 12.30pm - 2.00pm:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (30 munud)

Busnes y Cynulliad a busnes heblaw busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm:

2.00pm - 2.17pm Busnes y Cynulliad:

  • Cynnig i ethol Aelod i’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal (1 munud)

  • Cynnig i ethol Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (1 munud)

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

2.17pm - 5.30pm Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Leihau Carbon yn y Sector Trafnidiaeth (60 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

………………………………………….

Dydd Mawrth 10 Mehefin 2008

Busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad a chyhoeddiad busnes (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Diwygio) 2008 (15 munud)

  • Dadl ar ddehongli a mynediad i dreftadaeth (60 munud)

Dydd Mercher 11 Mehefin 2008

Busnes y Llywodraeth 12.30pm - 2.00pm:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud)

  • Cwestiynau i Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 munud)  

Busnes y Llywodraeth a busnes heblaw busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm:

  • Dadl ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Peter Black - Trefniadau Etholaethol Llywodraeth Leol (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd ar gyfer Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

………………………………………….

Dydd Mawrth 17 Mehefin

Busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad a chyhoeddiad busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio: Cymunedau Nesaf (30 munud)

  • Dadl ar dwristiaeth (60 munud)

Dydd Mercher 18 Mehefin 2008

Busnes y Llywodraeth 12.30pm - 2.00pm:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (30 munud)

Busnes y Cynulliad a busnes heblaw busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm:

  • Amser a neilltuwyd ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Amser a neilltuwyd ar gyfer Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)