Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 10/11/2026

Cyhoeddwyd 10/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/11/2026

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes            

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2027-28 (90 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Diweddariad ar sefydlu Unnos – corff datblygu cenedlaethol newydd a hwylusydd tai cymdeithasol (45 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru (45 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Adolygu'r fformiwla ariannu Llywodraeth Leol (45 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod: Lansio'r Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl (45 munud)

 

Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon (45 munud)

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)

  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

  • Cynnig o dan adran 7 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (5 munud)

  • Cynnig o dan adran 19 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (5 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2027-28 (30 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Reform UK (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Lafur Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer: Donna Cushing AS (Sir Fynwy Torfaen) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Diweddariad ar ymyrraeth Lefel 5 ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r adolygiad annibynnol o drefniadau arwain ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (45 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: Adolygiad o Gwricwlwm ac Asesiadau (45 munud)

  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Man Gwefru Cerbydau Trydan) (Cymru) 2026 (15 munud)

  • Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio​ Atodlen 1) 2026 (15 munud)

 

Dydd Mercher 25 Tachwedd 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni (45 munud)

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)

  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

  • Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26 (30 munud)

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Reform UK (60 munud)

  • Dadl Fer: Carrie Harper AS (Fflint Wrecsam) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: Miliwn a Mwy: Cymraeg i Gymru gyfan (45 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Diweddariad ar Ehangu Gofal Plant (45 munud)

  • Datganiad gan Weinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Adnewyddu'r Cytundeb Partneriaeth Strategol â Llywodraeth Leol (45 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol: Uwchgynhadledd Sgiliau (45 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol: Rhoi terfyn ar drosglwyddo HIV yng Nghymru (45 munud)

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rheilffyrdd (15 munud)

  • Dadl: Seithfed adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 2025-26 (30 munud)

 

Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb (45 munud)

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)

  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

  • Dadl ar ddeiseb P-06-1582 Adfer llwybr ariannu teg fel nad yw myfyrwyr Cymru yn cael eu hatal rhag dilyn graddau theatr gerdd/dawns yn Lloegr (30 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Reform UK (60 munud)

  • Dadl Fer: Shav Taj AS (Caerdydd Ffynnon Taf) (30 munud)