Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymwysterau galwedigaethol (30 munud)
- Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (5 munud)
- Dadl: Cyllideb Ddrafft 2024-2025 (120 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
- Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
- Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Dydd Mercher 7 Chwefror 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) (30 munud)
Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Dwy flynedd ers yr ymosodiad llawn ar Wcráin a diweddariad ar y Genedl Noddfa (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: System a Siarter Budd-daliadau Cymru (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Wythnos ‘CaruUndebau’ (30 munud)
- Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024 (5 munud)
- Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 (5 munud)
- Dadl: Setliad yr Heddlu 2024-25 (30 munud)
Pwyllgor o’r Senedd Gyfan
- Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) – y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2
Dydd Mercher 21 Chwefror 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
- Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE (45 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – flwyddyn yn ddiweddarach (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datganiad Polisi ar Brentisiaethau (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc (30 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) (15 munud)
- Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024 (15 munud)
- Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU (60 munud)
Mercher 28 Chwefror 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
- Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ynghylch Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar Gysylltiadau Rhyngwladol 2022-23 (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)