Datganiad a Chyhoeddiad Busnes   30/01/2024

Cyhoeddwyd 30/01/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/01/2024   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn    

 

Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                             

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymwysterau galwedigaethol (30 munud)
  • Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (5 munud)
  • Dadl: Cyllideb Ddrafft 2024-2025 (120 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
    • Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

 

 

Dydd Mercher 7 Chwefror 2024

 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                           

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Dwy flynedd ers yr ymosodiad llawn ar Wcráin a diweddariad ar y Genedl Noddfa (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: System a Siarter Budd-daliadau Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Wythnos ‘CaruUndebau’ (30 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024 (5 munud)
  • Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 (5 munud)
  • Dadl: Setliad yr Heddlu 2024-25 (30 munud)

 

 

Pwyllgor o’r Senedd Gyfan

  • Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) – y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2

 

 

Dydd Mercher 21 Chwefror 2024

 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE (45 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                           

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – flwyddyn yn ddiweddarach (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datganiad Polisi ar Brentisiaethau (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) (15 munud)
  • Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024 (15 munud)
  • Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU (60 munud)

 

 

Mercher 28 Chwefror 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ynghylch Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar Gysylltiadau Rhyngwladol 2022-23 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)