Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (125)
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Ebrill 2009
Amser:
1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3, 9 a 13 gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio.
.........................................
2.11pm
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl.
.........................................
2.50pm
Eitem
3: Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Atebwyd y cwestiwn.
.........................................
2.53pm
Eitem
4: Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar gynnydd y byrddau gwasanaethau lleol
NDM4190 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i Fyrddau Gwasanaethau Lleol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
3.40pm
Eitem
5: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM4191 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod nifer y plant a’r bobl ifanc â namau cymhleth yn cynyddu’n gyflym;
2. Yn nodi’r potensial sydd gan bobl anabl ifanc i gyfrannu at economi Cymru;
3. Yn nodi nad oes dim darpariaeth yng Nghymru ar hyn o bryd o wasanaethau addysg ôl-16 ar gyfer pobl ifanc â namau cymhleth, ac felly bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n dibynnu ar ddarpariaeth mewn colegau yn Lloegr i gefnogi’r myfyrwyr hyn;
4. Yn credu ei bod yn hen bryd cael "ateb Gwnaed yng Nghymru” ar gyfer darparu cyfle addysgol i bobl ifanc anabl; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried yn ofalus argymhellion y Pwyllgor Menter a Dysgu ar ôl iddo ystyried y ddeiseb anghenion dysgu ychwanegol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a’r gwelliannau tan y cyfnod pleidleisio.
[Yn
unol â’r confensiynau ar gyfer delio â chynigion y Gwrthbleidiau a gwelliannau i gynigion o’r fath y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 24 Mawrth 2009, yn gyntaf pleidleisiodd y Cynulliad ar y cynnig heb ei ddiwygio.]
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Gan na chytunwyd ar y cynnig hwn, pleidleisiodd y Cynulliad ar
y gwelliannau i’r cynnig, cyn pleidleisio ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 1 dileu "â namau cymhleth
yn cynyddu’n gyflym”
a rhoi yn ei le "y nodwyd bod ganddynt anghenion cymhleth yn cynyddu”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 3 ac ail-rifo yn ôl y gofyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym
mhwynt 4 dileu "Yn credu ei bod yn hen bryd cael”
a rhoi yn ei le "Yn cymeradwyo datblygiad”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym
mhwynt 5 dileu "Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried yn ofalus”
a rhoi yn ei le "Yn nodi y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod strategaeth hirdymor yn cael ei datblygu
er mwyn darparu cyfleoedd addysgol ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg ôl-16 a sicrhau bod digon o gyllid ar gael i roi’r strategaeth ar waith.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
0 |
32 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4191 Peter Black (South Wales West)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod nifer y plant a’r bobl ifanc nodwyd bod ganddynt anghenion cymhleth yn cynyddu;
2. Yn nodi’r potensial sydd gan bobl anabl ifanc i gyfrannu at economi Cymru;
3. Yn cymeradwyo datblygiad "ateb Gwnaed yng Nghymru” ar gyfer darparu cyfle addysgol i bobl ifanc anabl; a
4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried argymhellion y Pwyllgor Menter a Dysgu ar ôl iddo ystyried y ddeiseb anghenion dysgu ychwanegol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
0 |
15 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
4.29pm
Amser
pleidleisio
.........................................
4.33pm
Eitem
6: Y ddadl fer a ohiriwyd ar 25 Chwefror 2009: NDM4152 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Dyfodol gwasanaethau epilepsi yng Nghymru
.........................................
4.54pm
Eitem
7: Dadl fer
NDM4192 Chris Franks (Canol De Cymru):
Gordon Brown yn torri £500 miliwn o gyllideb Cymru: ergyd i fusnesau, cymunedau a phobl Cymru.
………………………………