Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (176)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2010
Amser:
13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
………………………
14.29
Eitem
2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.57
Pwynt o drefn
Gofynnodd Nick Bourne am arweiniad gan y Llywydd ynghylch ymddygiad Aelodau yn y Siambr yn y cyfnod sy’n arwain at etholiad cyffredinol y DU.
Cytunodd y Llywydd i ystyried y mater hwn ymhellach o ystyried etholiad cyffredinol nesaf y DU.
………………………
14.58
Eitem
3: Datganiad gan y Prif Weinidog: Penodi Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru
………………………
15.21
Eitem
4: Cynnig i gymeradwyo Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 26.4, mewn perthynas â’r Mesur Seneddol ynghylch Tlodi Plant
NDM4387 Leighton Andrews (Rhondda)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NDM4246 (a drafodwyd ar 23 Mehefin 2009), y darpariaethau pellach hynny, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a wneir yn y Mesur Seneddol ynghylch Tlodi Plant, ac sy’n ymwneud â phrydau ysgol am ddim.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
15.23
Eitem
5: Dadl ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Gweithgarwch Corfforol
NDM4389 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu Strategol ar Greu Cymru Egnïol ac yn cefnogi ei weledigaeth a'r arweiniad a geir ynddo i sicrhau bod pawb yn elwa o fod yn gorfforol egnïol
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi nod Meysydd Chwarae Cymru i ddiogelu meysydd chwarae yng Nghymru er mwyn helpu i gynyddu lefelau
gweithgarwch corfforol yng Nghymru
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder bod y cyfraddau gweithgarwch corfforol cyson isel yng Nghymru yn peri afiechyd ac yn
rhoi cryn faich ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn pryderu y bydd gormod o'r cyfrifoldeb ariannol am gyflawni'r strategaeth hon yn disgyn ar awdurdodau
lleol ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod digon o adnoddau ar ei chyfer.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddangos bod gwersi wedi cael eu dysgu yn sgil y methiant i werthuso
perfformiad neu effaith y strategaeth 'Dringo'n Uwch'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4389 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu Strategol ar Greu Cymru Egnïol ac yn cefnogi ei weledigaeth a'r arweiniad a geir ynddo i sicrhau bod pawb yn elwa o fod yn gorfforol egnïol.
Yn
mynegi pryder bod y cyfraddau gweithgarwch corfforol cyson isel yng Nghymru yn peri afiechyd ac yn rhoi cryn faich ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
……………….
16.00
Eitem
6: Dadl ar Naws am Le - gwerth nodweddion unigryw lleol a threftadaeth yng nghymunedau Cymru
NDM4390 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod y gwerth mae pobl yng Nghymru yn ei roi ar eu treftadaeth ac arbenigrwydd cymunedau Cymru ac yn croesawu'r gwaith mae'r Gweinidog dros Dreftadaeth yn ei wneud i hyrwyddo'r 'ymdeimlad o le'.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lleihau'r gefnogaeth i'r diwydiant twristiaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd:
Yn cydnabod y diffyg strategaeth a chyllid sydd ar gael i hyrwyddo Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4390 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod y gwerth mae pobl yng Nghymru yn ei roi ar eu treftadaeth ac arbenigrwydd cymunedau Cymru ac yn croesawu'r gwaith mae'r Gweinidog dros Dreftadaeth yn ei wneud i hyrwyddo'r 'ymdeimlad o le'.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
37 |
13 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
……………….
16.39
Cyfnod
Pleidleisio
……………….