Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (134)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.
………………………
14.42
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.52
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y frech goch
………………………
15.27
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: y Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd
………………………
15.51
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: ymgynghoriad ar sefydlu Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Unedig
………………………
16.11
Eitem 6: Cynnig i gymeradwyo cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â Mesur Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu Senedd y DU o dan Reol Sefydlog 26
NDM4229 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai darpariaethau'r Mesur Prentisiaeth, Sgiliau, Plant a Dysgu sy'n ymwneud ag addysg troseddwyr ifanc, i'r graddau y maent yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
16.15
Eitem 7: Dadl ar y Strategaeth Cydlyniant Cymunedol
NDM4226 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol
1. Yn croesawu cyhoeddi Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru Gyfan Llywodraeth Cynulliad Cymru
2. Yn edrych ymlaen at ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r ymgynghoriad.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu’r Ddeddf Cymunedau Cynaliadwy yng Nghymru
.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
27 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:Yn nodi’r rhan allweddol y gall y Sector Gwirfoddol ei chwarae o ran darparu Cydlyniant Cymunedol ac yn mynegi pryder ynghylch y toriadau mewn cyllid a swyddi sy’n wynebu’r sector yn awr
.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
29 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:Yn nodi’r rhan allweddol y gall Tai ei chwarae o ran darparu Cydlyniant Cymunedol ac yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i gydnabod ac i roi sylw i’r argyfwng tai sydd wedi bod yn datblygu yng Nghymru dros y degawd diwethaf
.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
9 |
5 |
30 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod cymunedau’n dibynnu ar wasanaethau lleol a gyllidir yn iawn er mwyn cynnal eu cydlyniant ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau y caiff hyn ei ystyried mewn setliadau cyllido yn y dyfodol, a bod unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol a drosglwyddir i awdurdodau lleol o ganlyniad i’r strategaeth hon yn cael digon o gyllid.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
30 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4226 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol
1. Yn croesawu cyhoeddi Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru Gyfan Llywodraeth Cynulliad Cymru
2. Yn edrych ymlaen at ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r ymgynghoriad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
35 |
5 |
4 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.
…………………………