Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (116)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009
Amser: 1.30pm
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog
NDM4159 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan eitem 1 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 3 Mawrth 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Eitem 1: Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau
NNDM4160 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Jonathan Morgan (Ceidwadwyr) a Nick Ramsay (Ceidwadwyr) yn aelodau o’r Pwyllgor Archwilio yn lle David Melding (Ceidwadwyr) a Darren Millar (Ceidwadwyr).
NNDM4161 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Alun Cairns (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle William Graham (Ceidwadwyr).
NNDM4162 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Alun Cairns (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr).
NNDM4163 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Paul Davies (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Dysgu yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr).
NNDM4164 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Jonathan Morgan (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr).
NNDM4165 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Nick Bourne (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol yn lle William Graham (Ceidwadwyr).
NNDM4166 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Darren Millar (Ceidwadwyr) ac Andrew RT Davies (Ceidwadwyr) yn aelodau o’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn lle Jonathan Morgan (Ceidwadwyr) ac Alun Cairns (Ceidwadwyr).
NNDM4167 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Angela Burns (Ceidwadwyr) fel aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn lle Darren Millar (Ceidwadwyr).
NNDM4168 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Paul Davies (Ceidwadwyr) yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 yn lle Jonathan Morgan (Ceidwadwyr).
NNDM4169 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol William Graham (Ceidwadwyr) yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 yn lle Alun Cairns (Ceidwadwyr).
NNDM4170 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Jonathan Morgan (Ceidwadwyr) yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr).
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
Eitem 2: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl.
………………………
2.39pm
Eitem 3: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
2.56pm
Eitem 4: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau i Blant yn Abertawe
………………………
3.30pm
Eitem 5: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau: Y diweddaraf am Strategaeth NEETs (Pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant)
………………………
4.20pm
Eitem 6: Datganiad deddfwriaethol ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)
………………………
5.24pm
Eitem 7: Dadl ar arwain Cymru allan o’r dirwasgiad
NDM4154 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu ymdrechion parhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru i liniaru effaith y dirwasgiad ar deuluoedd, busnesau a chymunedau Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi â phryder nad oes system fonitro effeithiol ar gael i fesur effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i liniaru effaith yr argyfwng economaidd
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod camau pendant iawn yn cael eu gwneud yn dilyn y trafodaethau yn yr uwchgynadleddau economaidd
. "
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
47 |
0 |
1 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi bod y dreth gyngor yn fath o dreth atchweliadol sy’n cael effaith anghyfrannol ar y rheini sydd eisoes yn dioddef fwyaf o’r dirwasgiad, ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w disodli â system decach o drethu lleol yn seiliedig ar allu i dalu.
"
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
6 |
0 |
41 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi ffocws newydd i’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref fel ei fod yn helpu pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi hwb i’r diwydiant adeiladu drwy ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ddod ag ysbytai ac ysgolion i safon briodol
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod polisïau caffael y sector cyhoeddus yn rhoi chwarae teg i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
47 |
0 |
1 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn credu bod diwydiannau newydd a diwydiannau sy’n datblygu yn darparu cyfle ar gyfer twf economaidd ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddwyn ymlaen ei chynllun gweithredu swyddi gwyrdd cyn gynted â phosibl
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4154 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu ymdrechion parhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru i liniaru effaith y dirwasgiad ar deuluoedd, busnesau a chymunedau Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod camau pendant iawn yn cael eu gwneud yn dilyn y trafodaethau yn yr uwchgynadleddau economaidd.
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi hwb i’r diwydiant adeiladu drwy ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ddod ag ysbytai ac ysgolion i safon briodol.
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod polisïau caffael y sector cyhoeddus yn rhoi chwarae teg i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru
Yn credu bod diwydiannau newydd a diwydiannau sy’n datblygu yn darparu cyfle ar gyfer twf economaidd ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddwyn ymlaen ei chynllun gweithredu swyddi gwyrdd cyn gynted â phosibl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
6 |
6 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
……………………………