Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (159)
Dyddiad: Dydd Mercher, 4 Tachwedd
2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 1 a 3 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 4 gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.
.........................................
14.20
Eitem
2: Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 3 ei drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.
.........................................
15.07
Eitem 3: Cynnig i newid enw’r Pwyllgor Archwilio
NDM4313 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Mae’r Cynulliad yn penderfynu, o dan adran 30(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y bydd pwyllgor y Cynulliad a elwir yn Bwyllgor Archwilio yn cael ei adnabod fel y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o hyn ymlaen.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
15.10
Eitem 4: Cynnig i ddirymu Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009
NDM4301 Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth); Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.2:
Yn cytuno y dylid dirymu Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009, a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad ar 30 Medi 2009.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio
.........................................
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
9 |
0 |
43 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig.
16.13
Eitem 5: Dadl ar adroddiad yr Is-bwyllgor Darlledu ar y diwydiant papurau newydd yng Nghymru
NDM4316 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad yr Is-bwyllgor Darlledu 'Y Diwydiant Papurau Newydd yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2009.
Nodyn:
gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Dreftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
Eitem
6: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar brif-ffrydio cynaliadwyedd o fewn portffolios y Gweinidogion - Tynnwyd y cynnig hwn yn ôl:
.........................................
16.53
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4312 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg a ffordd iach o fyw er mwyn atal clefyd y galon;
2. Yn mynegi pryder bod prinder gwasanaethau cardiaidd yng Nghymru o’i gymharu â’r angen presennol a’r angen a ragwelir; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno mesurau i wella safon gwasanaethau cardiaidd ac i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau yn narpariaeth y gwasanaeth ledled Cymru.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le:
"2. Yn cydnabod y gwelliannau sylweddol a wnaed o
ran amseroedd aros ar gyfer triniaethau cardiaidd, i’w datblygu drwy’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd y Galon, a’r Fframwaith Strategol Cardiaidd; a
3.
Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella safon gwasanaethau cardiaidd ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn narpariaeth y gwasanaethau ledled Cymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
16 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnwys fel pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
"Yn nodi bod adsefydlu cardiaidd
yn gost effeithiol a bod profion wedi dangos ei fod yn gwella ansawdd a hyd bywyd cleifion.
Yn
nodi, yn ôl Archwiliad Cenedlaethol Adsefydlu Cardiaidd 2009, mai 31% yn unig o gleifion cymwys yn y tri phrif grŵp diagnostig sy’n cael gwasanaethau adsefydlu cardiaidd yng Nghymru.”
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4312 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg a ffordd iach o fyw er mwyn atal clefyd y galon;
2. Yn cydnabod y gwelliannau sylweddol a wnaed o ran amseroedd aros ar gyfer triniaethau cardiaidd, i’w datblygu drwy’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd y Galon, a’r Fframwaith Strategol Cardiaidd; a
3. Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella safon gwasanaethau cardiaidd ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn narpariaeth y gwasanaethau ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
16 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
17.46
Cyfnod pleidleisio
.........................................
17.59
Eitem
8: Dadl Fer
NDM4315 Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth):
Cefnogi Ymgyrch Rhyddid Rhag Ofn USDAW.
.........................................