06/05/2009 - Crynodeb o Bleidleisiau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (129)

Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Mai 2009
Amser: 1.30pm

Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.

.........................................

2.13pm
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 3, 4 a 5 gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau.

.........................................

2.54pm
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ffliw Moch

.........................................

3.14pm
Eitem 4: Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog

NDM4202 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn atal Rheol Sefydlog 23.101 drwy gydol dydd Gwener 8 Mai, er mwyn cael gwared dros dro ar y cyfyngiad sy'n rhwystro Aelodau sydd eisoes wedi ennill y balot i gyflwyno Mesur rhag gwneud cais arall i gael eu cynnwys yn y balot.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

.........................................

3.14pm
Eitem 5: Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat

NDM4203 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid 'Ymchwiliad i Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat: Argymhellion a Datganiad i gloi' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2009.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

.........................................

4.00pm
Eitem 6: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4204 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) gydnabod y pryder cyffredinol ymysg defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth ynghylch darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus trawsffiniol; a

b) ymateb yn adeiladol i argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig ynghylch llunio protocolau parhaol i sicrhau bod mynediad at wasanaethau trawsffiniol allweddol yn cael ei gynnal.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

Crynodeb o Bleidleisiau

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

32

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu’r cyfan ac yn ei le rhoi:

"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.  Yn cydnabod bod datganoli’n darparu ar gyfer llunio gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu anghenion poblogaethau lleol;

2.  Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru i sicrhau bod gwasanaethau trawsffiniol yn cael eu cydgysylltu’n briodol;

3.  Yn nodi cyfraniad y Pwyllgor Materion Cymreig wrth adrodd ar y mater hwn.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Crynodeb o Bleidleisiau

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

14

45

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"yn ymgysylltu’n llawn â darparwyr gwasanaethau yn Lloegr i sicrhau bod gwasanaethau trawsffiniol yn gweithredu er lles gorau pobl ar ddwy ochr y ffin.”


Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4204 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.  Yn cydnabod bod datganoli’n darparu ar gyfer llunio gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu anghenion poblogaethau lleol;

2.  Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru i sicrhau bod gwasanaethau trawsffiniol yn cael eu cydgysylltu’n briodol;

3.  Yn nodi cyfraniad y Pwyllgor Materion Cymreig wrth adrodd ar y mater hwn.

Crynodeb o Bleidleisiau

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

16

46

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

.........................................

4.52pm
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4205 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder bod cleifion strôc yng Nghymru yn cael safon is o driniaeth na’r rheini sy’n byw yng ngweddill y DU;

2. Yn gresynu mai dim ond wyth uned strôc a leolir mewn ysbyty sydd yng Nghymru ac yn pryderu bod prinder cyfleusterau strôc yn rhoi bywydau cleifion mewn perygl;

3. Yn annog y Gweinidog i gynnal archwiliad ar frys o wasanaethau therapi lleferydd yng Nghymru er mwyn llunio cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer therapi lleferydd i'r rheini sydd wedi dioddef strôc a chleifion eraill yng Nghymru;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflymu’r broses o wneud diagnosis a thrin strociau er mwyn helpu’r rheini sydd wedi dioddef strôc i gael gwell siawns o oroesi a gwella eu safon byw.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

Crynodeb o Bleidleisiau

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

32

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru :

"1.  Yn cydnabod bod angen i’r gwasanaethau strôc fod o safon uchel gyson ar draws Cymru;

2.  Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i wella ystod ac ansawdd gwasanaethau yng Nghymru ar gyfer gwneud diagnosis a thrin strôc er mwyn helpu i wella cyfleoedd goroesi’r rheini sydd wedi dioddef strôc a gwella eu safon byw;

3.   Yn edrych ymlaen at gyhoeddi archwiliad sy’n benodol i’r proffesiwn gwasanaethau therapi lleferydd yng Nghymru, a gynhaliwyd yn ddiweddar.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Crynodeb o Bleidleisiau

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

14

46

Derbyniwyd gwelliant 1.


Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4205 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

1.  Yn cydnabod bod angen i’r gwasanaethau strôc fod o safon uchel gyson ar draws Cymru;

2.  Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i wella ystod ac ansawdd gwasanaethau yng Nghymru ar gyfer gwneud diagnosis a thrin strôc er mwyn helpu i wella cyfleoedd goroesi’r rheini sydd wedi dioddef strôc a gwella eu safon byw.

3.   Yn edrych ymlaen at gyhoeddi archwiliad sy’n benodol i’r proffesiwn gwasanaethau therapi lleferydd yng Nghymru, a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Crynodeb o Bleidleisiau

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

14

46

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

.........................................

5.52pm
Cyfnod pleidleisio

.........................................

5.54pm
Eitem 8: Dadl fer

NDM4201 Janet Ryder (Gogledd Cymru):

Hybu gofal iechyd holistaidd yn y gymuned.

.........................................

Daeth y cyfarfod i ben am 6.20pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 1.30pm ddydd Mawrth 12 Mai 2009

Ysgrifenyddiaeth y Siambr