Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (152)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Hydref 2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Atebwyd pob cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 1, 9 ac 11 yn ôl. Cafodd cwestiynau 3 a 5 eu grwpio. Ni ofynnwyd cwestiwn 12.
.........................................
14.28
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
.........................................
14.41
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: gofal lliniarol
.........................................
15.15
Eitem 4: Dadl ar gydraddoldeb
NDM4288 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi'r Ymchwiliad Hawliau Dynol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ym mis Mehefin 2009;
2. Yn nodi'r cynnydd positif a wnaed o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yn ystod degawd cyntaf datganoli yng Nghymru fel sy'n gynwysedig yn y papur academaidd diweddar a gomisiynwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol; a
3. Yn cydnabod yr arweiniad a gynigwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod y degawd ers datganoli i sefydlu egwyddorion hawliau dynol a hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn nodi bod yr adroddiad First Decade of Devolution
unwaith eto wedi amlygu’r ffordd wael y caiff materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb eu 'prif ffrydio’ drwy holl adrannau’r Llywodraeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
33 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
'Yn nodi â phryder y diffygion yng nghyswllt y nod o brif ffrydio cydraddoldeb yng ngwaith y llywodraeth, fel y manylir yn yr adroddiad Equal Opportunities and Human Rights: First Decade of Devolution
, ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ganfod amcanion a cherrig milltir cyraeddadwy ac adnewyddadwy er mwyn mynd i’r afael â hyn.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
33 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4288 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi'r Ymchwiliad Hawliau Dynol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ym mis Mehefin 2009;
2. Yn nodi'r cynnydd positif a wnaed o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yn ystod degawd cyntaf datganoli yng Nghymru fel sy'n gynwysedig yn y papur academaidd diweddar a gomisiynwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol; a
3. Yn cydnabod yr arweiniad a gynigwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod y degawd ers datganoli i sefydlu egwyddorion hawliau dynol a hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
37 |
8 |
0 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.
.........................................
15.52
Eitem 5: Dadl ar adroddiad blynyddol y strategaeth ar gyfer pobl hŷn
NDM4287 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu Adroddiad Blynyddol y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2008/09.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Yn lle 'croesawu’ rhoi 'nodi’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
8 |
0 |
38 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
'Yn gresynu nad yw’r Adroddiad yn pennu nac yn rhoi sylw i’r sialensiau sy’n wynebu pobl hŷn’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
33 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder bod nifer anghymesur o bobl hŷn yn byw mewn tlodi tanwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
32 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â gofid y problemau parhaus i bobl hŷn sy’n codi o ganlyniad i ddiffyg cydweithrediad rhwng Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
33 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder y gost uchel o gludo cleifion i rai pobl hŷn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
33 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4287 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu Adroddiad Blynyddol y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2008/09.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig.
.........................................
16.29
Gohiriwyd y cyfarfod i ailymgynnull am 16.34 ar gyfer y cyfnod pleidleisio.
.........................................