Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (211)
Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Gorffennaf
2010
Amser: 13.30
Cafodd William Graham ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro.
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Ni ofynnwyd cwestiwn 1.
.........................................
14.18
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 9 gan y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio.
.........................................
15.12
Eitem
3: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn
NDM4514 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2010.
Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
15.56
Eitem
4: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4515 Nick Ramsay (Mynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r angen dybryd i wella cystadleurwydd economaidd gwledig fel ffordd o adfywio cymunedau gwledig;
2. Yn credu ei bod yn rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn ystyried anghenion penodol Cymru wledig.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
32 |
0 |
18 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella cystadleurwydd economaidd gwledig ac adfywio cymunedau gwledig, yn arbennig drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig a Rhaglen Adnewyddu’r Economi;
2. Yn croesawu Cynllun Iechyd Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyflwyno prawfesur gwledig a luniwyd gyda’r bwriad o sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi ystyriaeth i anghenion arbennig Cymru wledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod seilwaith band eang o ansawdd da yn hanfodol i ddatblygiad yr economi wledig ac yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i wneud newidiadau rheoleiddio er mwyn lleihau costau cyflwyno band eang cyflym iawn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
0 |
33 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4515 Nick Ramsay (Mynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella cystadleurwydd economaidd gwledig ac adfywio cymunedau gwledig, yn arbennig drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig a Rhaglen Adnewyddu’r Economi;
2. Yn croesawu Cynllun Iechyd Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyflwyno prawfesur gwledig a luniwyd gyda’r bwriad o sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi ystyriaeth i anghenion arbennig Cymru wledig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
32 |
0 |
17 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
17.33
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
17.35
Eitem
5: Dadl fer
NDM4513 Mick Bates (Sir Drefaldwyn):
Bancio Lleol, Hwylus: Rhywbeth o'r Oes a Fu yng Nghymru Wledig?
Daeth y cyfarfod i ben am 17.58
.........................................