Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (27)
Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2007
Amser:
12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Tynnwyd cwestiynau 4 a 13 yn ôl.
...................................................
12.59pm
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 7 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl.
...................................................
1.47pm
Eitem
3: Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Canolfan Mileniwm Cymru
………………………………
3.01pm
Eitem
4: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Addysg yn Sir Ddinbych
………………………………
3.25pm
Eitem
5: Cynnig i sefydlu Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd
NDM3704 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog Rhif 20.1, yn sefydlu Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru a fydd yn cynnwys yr Aelodau sy’n cynrychioli’r rhanbarth hwnnw a’r etholaethau ynddo. Bydd y pwyllgor yn bodoli drwy gydol y Cynulliad hwn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
...................................................
3.25pm
Eitem
6: Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
NNDM3709 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
1. Yn atal dros dro Reol Sefydlog 7.18(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 i lunio'r amserlen ar gyfer busnes yng Nghyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM3708 a gyflwynwyd ar ddydd Mawrth 6 Tachwedd gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher 7 Tachwedd 2007; a
2. Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.19 sy’n ei gwneud yn ofynnol i welliannau gael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith cyn bod y cynnig yn cael ei drafod, i ganiatáu i unrhyw welliannau mewn perthynas ag NNDM3708, a gyflwynwyd cyn 11:00am ddydd Mercher 7 Tachwedd 2007, gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 7 Tachwedd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
...................................................
3.26pm
Eitem
7: Cynnig i roi cyfarwyddiadau i Bwyllgor Rhanbarth y Gogledd
NNDM3708 Carwyn Jones (Pen-y-bont
ar Ogwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.2, yn rhoi cyfarwyddiadau i Bwyllgor Rhanbarth y Gogledd fel a ganlyn:
1. Bydd y Pwyllgor yn trafod materion datganoledig sy'n effeithio ar Ranbarth Etholiadol Gogledd Cymru yn unig;
2. Ni fydd y Pwyllgor yn cyfarfod fwy nag unwaith ym mhob tymor y Cynulliad;
3. Bydd y Pwyllgor fel rheol yn cyfarfod yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Colwyn; a
4. Yn eithriadol, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes yn unig, gall y Pwyllgor Rhanbarth gyfarfod mewn lleoliadau eraill yn Rhanbarth Etholiadol Gogledd Cymru yn amodol ar bwynt 2 uchod.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
...................................................
3.27pm
Eitem
8: Dadl i geisio caniatâd y Cynulliad i gyflwyno Mesur arfaethedig Aelod ynghylch Cau Ysgolion (Ymgynghori a Chategorïau)
NDM3691
Mike German (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 23.103:
Yn caniatáu i Mike German gyflwyno Mesur arfaethedig Aelod er mwyn gweithredu’r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 3 Hydref 2007 dan Reol Sefydlog Rhif 23.102.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
31 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig.
...................................................
4.15pm
Eitem
9: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3705 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol yn y pen draw am achosion diweddar clwy’r traed a’r genau;
2. Yn nodi methiant Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau iawndal digonol i ffermwyr Cymru;
3. O’r farn mai’r Trysorlys sy’n gwbl gyfrifol am ariannu pob mesur i ddigolledu effeithiau’r achosion yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
"Mae’r Cynulliad Cenedlaethol
1.
Yn nodi casgliadau adroddiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar yr achosion o glwy’r traed a’r genau yn Lloegr.
2.
Yn croesawu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu £1m ar gyfer hybu cig o Gymru ar adeg mor anodd i’r diwydiant.
3.
Yn croesawu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu’n llwyr gynllun gwerth £6.75 miliwn er mwyn mynd i’r afael â darpar ystyriaethau lles ynghylch ŵyn.
4.
Yn cymeradwyo camau gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddi fynd ati o ddifrif i ddarbwyllo trysorlys y Deyrnas Unedig i ariannu pecyn o gymorth economaidd ar gyfer ffermwyr Cymru.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3705 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol
1. Yn nodi casgliadau adroddiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar yr achosion o glwy’r traed a’r genau yn Lloegr.
2. Yn croesawu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu £1m ar gyfer hybu cig o Gymru ar adeg mor anodd i’r diwydiant.
3. Yn croesawu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu’n llwyr gynllun gwerth £6.75 miliwn er mwyn mynd i’r afael â darpar ystyriaethau lles ynghylch ŵyn.
4. Yn cymeradwyo camau gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddi fynd ati o ddifrif i ddarbwyllo trysorlys y Deyrnas Unedig i ariannu pecyn o gymorth economaidd ar gyfer ffermwyr Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
...................................................
5.10pm
Eitem
10: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3706 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd ac archwilio effeithiolrwydd y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref presennol o ran codi pobl o dlodi tanwydd.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
"Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo’r ffaith
bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn pwyso a mesur ei strategaeth ar dlodi tanwydd yn unol ag ymrwymiad 'Cymru’n Un’ i gynllun cenedlaethol ar effeithlonrwydd ynni ac arbedion.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3706 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo’r ffaith bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn pwyso a mesur ei strategaeth ar dlodi tanwydd yn unol ag ymrwymiad 'Cymru’n Un’ i gynllun cenedlaethol ar effeithlonrwydd ynni ac arbedion.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
36 |
10 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
...................................................
6.02pm
Gohiriwyd
y cyfarfod.
6.07pm
Bu i’r cyfarfod ailymgynnull i bleidleisio ar y cynigion a’r gwelliannau.
...................................................
6.09pm
Eitem
11: Dadl fer
NDM3703 Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd):
Diwygio cyfansoddiadol,
cael y cydbwysedd cywir ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig.
...................................................