09/04/2008 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (55)

Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Ebrill 2008
Amser: 12.30pm

Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

………………………………

1.10pm
Eitem 2: Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.

………………………………

1.56pm
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog

NNDM3907 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 3 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 9 Ebrill 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

1.56pm
Eitem 3: Cynnig i ethol Aelod i’r Pwyllgor Darlledu

NNDM3904 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Nerys Evans (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Darlledu yn lle Alun Ffred Jones (Plaid Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

1.56pm
Pwynt o Drefn - Cododd Nick Bourne bwynt o drefn ynghylch gwelliannau i gynigion a gyflwynir gan y gwrthbleidiau.

………………………………

2.11pm
Gwnaed datganiad gan y Llywydd ar gymeradwyaeth EI Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor o’r Gorchymyn ynghylch Addysg a Hyfforddiant

………………………………

2.22pm
Cynnig trefniadol  o dan Reol Sefydlog 7.26 i ohirio’r ddadl ar gynnig Nerys Evans ar gyfer Mesur.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

Eitem 4: Dadl yn ceisio caniatâd y Cynulliad i gyflwyno Mesur Arfaethedig Aelod ynghylch ailgylchu - gohiriwyd yr eitem hon

NDM3891 Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.103:

Yn caniatáu i Nerys Evans gyflwyno Mesur Arfaethedig Aelod er mwyn gweithredu’r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 15 Chwefror 2008 o dan Reol Sefydlog Rhif 23.102.

………………………………

2.22pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3902 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cytuno y dylai Llywodraeth y DU roi diwedd ar ei rhaglen i gau swyddfeydd post yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:


Gwelliant 1 - Carl Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy)

Dileu popeth ar ôl 'cytuno’ a rhoi yn ei le 'y dylid galw ar Lywodraeth y DU i:

1. Gydnabod y pryderon a achoswyd gan y rhaglen cau swyddfeydd post yng nghymunedau Cymru;

2. Gwneud pob ymdrech i gadw swyddfeydd post hyfyw ar agor;

3. Sicrhau mynediad amgen i wasanaethau mewn ardaloedd lle nodir y bydd swyddfeydd post yn cau.’

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu popeth ar ôl 'rhoi diwedd ar’ a rhoi yn ei le 'gau unrhyw swyddfa bost yng Nghymru sydd â dyfodol hyfyw.’

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

29

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3902 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cytuno y dylai Llywodraeth y DU roi diwedd ar gau unrhyw swyddfa bost yng Nghymru sydd â dyfodol hyfyw.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

3.23pm
Eitem 6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM3903 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)


Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn cydnabod pwysigrwydd band eang i unigolion ac i oroesiad a ffyniant busnesau yng Nghymru.

2) Yn cydnabod nifer y tai yng Nghymru na allant o hyd gael gafael ar gyswllt band eang.

3) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi arbenigwyr lleol sy’n gallu adnabod a datrys sialensiau darparu band eang ar draws gwahanol diroedd mewn cymunedau ledled Cymru.

4) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog a chefnogi cynghorau lleol i ddatblygu atebion wedi’u teilwra ar gyfer datrys mannau heb gysylltiad band eang yn eu hardal.

5) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi mewn datblygu portffolio o atebion arloesol, i ddarparu’r seilwaith sy’n angenrheidiol i ddarparu data fforddiadwy lled band uchel, i bob cartref a busnes yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:


Gwelliant - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)


Dileu popeth ar ôl pwynt 1 ac yn ei le rhoi:

"2) Yn cydnabod bod cartrefi a busnesau yng Nghymru na allant o hyd gael gafael ar gyswllt band eang;

3) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i barhau i gefnogi'r diwydiant i adnabod a datrys sialensiau darparu band eang ar draws gwahanol diroedd yng Ngymru;

4) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog a chefnogi'r diwydiant a phartneriaid lleol i ddatblygu atebion wedi'u teilwra ar gyfer datrys mannau heb gysylltiad band eang yn eu hardal;

5) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog rheoleiddiwr y diwydiant cyfathrebu, Ofcom, i sicrhau bod yr amgylchedd rheoleiddiol yn galluogi'r diwydiant i ddarparu band eang fforddiadwy lled band uchel i gartrefi a busnesau yng Nghymru.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

16

54

Derbyniwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3903 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)


Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn cydnabod pwysigrwydd band eang i unigolion ac i oroesiad a ffyniant busnesau yng Nghymru.

2) Yn cydnabod bod cartrefi a busnesau yng Nghymru na allant o hyd gael gafael ar gyswllt band eang;

3) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i barhau i gefnogi'r diwydiant i adnabod a datrys sialensiau darparu band eang ar draws gwahanol diroedd yng Ngymru;

4) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog a chefnogi'r diwydiant a phartneriaid lleol i ddatblygu atebion wedi'u teilwra ar gyfer datrys mannau heb gysylltiad band eang yn eu hardal;

5) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog rheoleiddiwr y diwydiant cyfathrebu, Ofcom, i sicrhau bod yr amgylchedd rheoleiddiol yn galluogi'r diwydiant i ddarparu band eang fforddiadwy lled band uchel i gartrefi a busnesau yng Nghymru.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

4.25pm
Eitem 7: Dadl fer

NDM3901 Leanne Wood (Canol De Cymru):

Rhandiroedd i Bawb.

………………………………

4.47pm
Gohiriwyd y cyfarfod.

5.00pm
Bu i’r cyfarfod ailymgynnull ar gyfer y cyfnod pleidleisio.


………………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 5.02pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 15 Ebrill 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr