Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (112)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Chwefror 2009
Amser: 1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
………………………
2.29pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
2.39pm
Eitem 3: Dadl ar setliad yr heddlu
NDM4131 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988:
Yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2009-2010 (Setliad Terfynol - yr Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a anfonwyd at Aelodau’r Cynulliad drwy e-bost ddydd Mawrth 03 Chwefror 2008.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
30 |
5 |
10 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
3.26pm
Eitem 4: Dadl ar y Strategaeth Dai
NDM4132 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu'r ymgynghoriad ar Cartrefi Cynaliadwy: Strategaeth Dai Genedlaethol i Gymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn cydnabod yr angen i weithredu Cynllun Adfer Tai Cenedlaethol ar frys.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
31 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno strategaeth cartrefi gwag wedi’i chyllido’n llawn sy’n cynnwys cymorth i gynghorau ac i gymdeithasau tai fenthyg arian i brynu cartrefi newydd gwag ar gyfer tai cymdeithasol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
5 |
10 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ganiatáu i gynghorau gael mwy o hyblygrwydd i osod cyfraddau’r dreth gyngor sy’n fwy cosbol ar gartrefi sy’n wag yn y tymor hir er mwyn annog perchnogion i’w hailddefnyddio ac er mwyn gwneud iawn i’r gymuned am y malltod a achosant yn lleol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
5 |
0 |
41 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i leihau cyfradd TAW ar atgyweiriadau adeiladau a gwaith gwella adeiladau.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
36 |
10 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4132 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu'r ymgynghoriad ar Cartrefi Cynaliadwy: Strategaeth Dai Genedlaethol i Gymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i leihau cyfradd TAW ar atgyweiriadau adeiladau a gwaith gwella adeiladau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
36 |
0 |
10 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………
4.11pm
Eitem 5: Dadl yn dilyn y bedwaredd uwchgynhadledd economaidd
NDM4133 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cyfarfod yr Uwchgynhadledd Economaidd ar 6ed o Chwefror ac yn cymeradwyo y camau mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi eu cymryd hyd yma.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad oes cynllun gweithredu clir nac amserlen gweithredu ar gyfer ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r dirwasgiad.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi methu cynnwys y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn ei Huwchgynadleddau Economaidd.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu ei chyllid i’r sector Addysg Bellach i’w alluogi i ymateb yn gyflym i’r angen i ailhyfforddi’r rheini sydd wedi colli eu swyddi neu sydd mewn perygl o golli eu swyddi.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddiwygio’r broses ymgeisio ar gyfer y cynllun ProAct i’w gwneud yn haws i ymgeiswyr gael gafael ar y cynllun.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.

……………………………