Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (179)
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Chwefror
2010
Amser: 13.30
13.30
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig (30 munud)
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 1 ei drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig.
.........................................
14.09
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (30 munud)
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 7 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio.
.........................................
14.55
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog
NDM4410 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan eitem 3 a 4 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 10 Chwefror 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
14.56
Eitem 3: Cynnig i ethol aelodau i bwyllgorau (1 munud)
NNDM4405 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Mike German (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn lle Mick Bates (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4406 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 yn lle Mike German (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4407 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Mike German (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4408 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Mike German (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 yn lle Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4409 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 yn lle Mick Bates (Democratiaid Rhyddfrydol).
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
14.56
Eitem 4: Enwebu Archwilydd Cyffredinol Cymru gan y Cynulliad (1 munud)
NNDM4404 Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Wrth weithredu o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn unol â pharagraff 1(2), yn enwebu Gillian Ann Body i gael ei phenodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru am dymor sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2010.
Derbyniwyd yn cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
15.00
Eitem 5: Cynnig i ethol aelod i’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog (1 munud)
NDM4399 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Sandy Mewies (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle Janice Gregory (Llafur).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
15.01
Eitem 6: Cynnig i benodi archwilwyr ar gyfer cyfrifon Archwilydd Cenedlaethol Cymru (5 munud)
NDM4402 Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 14(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn penodi KTS Owens Thomas yn archwilwyr cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
15.02
Eitem 7: Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog
NDM4411 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal y rhan o Reol Sefydlog 22.31 sy'n ei gwneud yn ofynnol i Orchymyn drafft gael ei osod yn ystod wythnos eistedd, er mwyn caniatáu i Orchmynion drafft gael eu cyflwyno ar 15 ,16, 17, 18 ac 19 Chwefror 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
15.05
Eitem 8: Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar ei Ymchwiliad i’r Defnydd o Welyau Haul yng Nghymru a’u Rheoleiddio (60 munud)
NDM4398 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i'r Defnydd o Welyau Haul a'u Rheoleiddio, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Tachwedd 2009.
Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2010
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
15.52
Eitem
9: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4401 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod fferyllfeydd cymunedol yn cynorthwyo i atal problemau iechyd ar raddfa eang a rheoli cyflyrau cronig yn sylweddol, yn ogystal â mynd i’r afael ag afiechyd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnwys fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru wrth fynd i’r afael â’r broblem ddifrifol o wastraffu meddyginiaethau ac i ail-fuddsoddi unrhyw arbedion sy’n deillio o hynny mewn ystod o wasanaethau gofal ataliol mewn fferyllfeydd cymunedol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyhoeddi Adroddiad Terfynol Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidog ar Fferylliaeth cyn gynted â phosibl.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2 dileu popeth ar ôl "meddyginiaethau”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
0 |
19 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu'n llawn yr argymhellion ynghylch Fferylliaeth yn y
Cynllun Iechyd Gwledig i sicrhau mynediad teg at wasanaethau fferylliaeth a meddyginiaethau ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gyda’r Byrddau Iechyd i wneud mwy o ddefnydd
o fferyllwyr-ragnodwyr i leihau apwyntiadau diangen gyda Meddygon Teulu a gwneud y defnydd gorau o hyfforddiant fferylliaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4401 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod fferyllfeydd cymunedol yn cynorthwyo i atal problemau iechyd ar raddfa eang a rheoli cyflyrau cronig yn sylweddol, yn ogystal â mynd i’r afael ag afiechyd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnwys fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru wrth fynd i’r afael â’r broblem ddifrifol o wastraffu meddyginiaethau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
16.52
Eitem
10: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM4403 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ddarpariaeth gyfyngedig o driniaeth arbenigol ar gyfer dioddefwyr Anhwylder Straen Wedi Trawma yng Nghymru; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gydnabod nifer yr achosion o Anhwylder Straen Wedi Trawma yng Nghymru a chanfod ffyrdd o ehangu’r driniaeth a ddarperir ar gyfer y rheini sydd mewn angen.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau gofal iechyd arbenigol, megis Anhwylder Straen Wedi Trawma, yn sgil y pwysau ar recriwtio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
18 |
0 |
31 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i nodi ffrydiau cyllido penodol a chynaliadwy o fewn y gyllideb
iechyd i fynd i’r afael â’r diffygion mewn recriwtio a hyfforddiant er mwyn gwella'r driniaeth arbenigol ar gyfer y rheini sy’n dioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gomisiynu ymchwil i ystod a nifer yr achosion o Anhwylder Straen
Wedi Trawma yng Nghymru, ac i gyflenwi gwasanaethau mewn partneriaeth â’r sector annibynnol i ddiwallu’r anghenion hynny a nodwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
.........................................
17.42
Cyfnod pleidleisio
.........................................
17.46
Eitem 11: Dadl fer
NDM4400 Mike German (Dwyrain De Cymru)
Parcffordd Gwent - Atebion trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol agos?
.........................................