Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (185)
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010
Amser: 10.30
Cafodd Peter Black ei ethol yn Ddirprwy Lywydd Dros Dro.
Rhoddwyd teyrngedau i Michael Foot.
………………………
10.42
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Cafodd y Llywydd ei hysbysu o dan Reol Sefydlog 7.50 y byddai’r Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb yn ateb cwestiynau ar ran Prif Weinidog Cymru. Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 2 a 3 yn ôl.
………………………
11.43
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd cwestiwn 9 i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Tynnwyd cwestiynau 4 a 14 yn ôl.
………………………
12.28
Eitem 3: Dadl Cyfnod 3 Rheol Sefydlog 23.57 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru)
Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, gwaredwyd y gwelliannau yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.
Grwpiwyd y gwelliannau at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodwyd yn ôl y grwpiau a ganlyn:
1: Datganiadau niferoedd ac amcangyfrifon
2, 3, 4, 5
2: Offerynnau Statudol a wneir o dan adrannau 3(3), 5(4) a 6(3)
1
Cynhaliwyd y pleidleisiau yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
28 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
27 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
27 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
27 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
27 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Mesur arfaethedig wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
………………………
12.45
Eitem 4: Cynnig Cyfnod 4 Rheol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru)
Cynigiodd y Gweinidog fod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58.
Cafodd y Mesur ei basio, yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Mae’r Mesur fel y cafodd ei basio i’w weld drwy ddilyn y linc hwn:
Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru)
………………………
12.47
Eitem 5: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (30 munud)
Gofynnwyd pob cwestiwn.
………………………
12.57
Gohiriwyd y cyfarfod.
….……………...........
14.00
Eitem 6: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (30 munud)
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 8 gan y Dirprwy Weinidog dros Blant.
………………………
14.40
Eitem 7: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
15.14
Eitem 8: Datganiad Deddfwriaethol gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Mesur Arfaethedig y Gymraeg
………………………
16.13
Eitem 9: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4434 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder y baich a roddwyd ar gartrefi a busnesau yng Nghymru yn sgil y cynnydd sy’n uwch na chwyddiant yn y Dreth Gyngor ac mewn Ardrethi Busnes.
2. Yn mynegi pryder am effaith yr ailbrisio ardrethi busnes ar lawer o fusnesau yng Nghymru.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
29 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr adnoddau a ddarparwyd ar gyfer awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi golygu bod lefelau’r dreth gyngor yng Nghymru yn is nag yng ngweddill y DU.
2. Yn nodi y bydd dros 60% o fusnesau yng Nghymru yn gweld gostyngiad yn eu biliau ardrethi o ganlyniad i’r ailbrisio ac y bydd y mwyafrif o fusnesau yng Nghymru hefyd yn derbyn rhyddhad ardrethi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
29 |
0 |
16 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y broses ailbrisio ardrethi busnes wedi cael effaith andwyol ar fusnesau bach yn benodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
29 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM4434 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr adnoddau a ddarparwyd ar gyfer awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi golygu bod lefelau’r dreth gyngor yng Nghymru yn is nag yng ngweddill y DU.
2. Yn nodi y bydd dros 60% o fusnesau yng Nghymru yn gweld gostyngiad yn eu biliau ardrethi o ganlyniad i’r ailbrisio ac y bydd y mwyafrif o fusnesau yng Nghymru hefyd yn derbyn rhyddhad ardrethi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
30 |
4 |
11 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
………………………
17.07
Cynnig Trefniadol
Gwnaeth Helen Mary Jones gynnig trefniadol o dan Reol Sefydlog 7.26 i ohirio’r Ddadl Fer.
Derbyniwyd y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
17.08
Eitem 10: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ariannu Seilwaith Ffyrdd
NDM4433 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Ariannu Seilwaith Ffyrdd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2010.
Noder: Cafodd ymateb Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
18.14
Eitem 11: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4435 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r canlynol cyn cau ysgol:
(a) safon yr addysg;
(b) pwysigrwydd yr ysgol honno yn y gymuned;
(c) unrhyw geisiadau cynllunio preswyl newydd yn y dyfodol a allai sicrhau ei hyfywedd i’r dyfodol; ac
2. Yn credu y dylid rhoi proses ymgynghori briodol a chadarn ar waith yn gynnar pan fydd bwriad i gau ysgol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
30 |
45 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1 dileu popeth cyn 'i’r canlynol’ a rhoi yn ei le 'Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod ystyriaeth lawn wedi’i rhoi’
Ym mhwynt 2 dileu 'Yn credu’ a rhoi 'Yn cydnabod’ yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
0 |
11 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ei bod ar gyfartaledd wedi cymryd 32 wythnos i Lywodraeth Cynulliad benderfynu ar y deg cynnig diwethaf i ad-drefnu ysgolion, ac mewn un achos, iddi gymryd 47 wythnos.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
29 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod oedi cyn cael penderfyniadau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu achosi llawer o ansicrwydd i fyfyrwyr, i deuluoedd ac i athrawon a bod hynny'n gwneud proses angenrheidiol ad-drefnu ysgolion hyd yn oed yn anos i'r rheini dan sylw.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
29 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM4435 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod ystyriaeth lawn wedi’i rhoi i’r canlynol cyn cau ysgol:
(a) safon yr addysg;
(b) pwysigrwydd yr ysgol honno yn y gymuned;
(c) unrhyw geisiadau cynllunio preswyl newydd yn y dyfodol a allai sicrhau ei hyfywedd i’r dyfodol; ac
2. Yn cydnabod y dylid rhoi proses ymgynghori briodol a chadarn ar waith yn gynnar pan fydd bwriad i gau ysgol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
0 |
11 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
………………………
19.17
Cyfnod pleidleisio
………………………
Eitem 12: Dadl fer
NDM4436 Helen Mary Jones (Llanelli): Yr Hawl i Gael Cartref Gweddus - Gohiriwyd
………………………