Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (119)
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Mawrth 2009
Amser:
1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 2 ei dynnu yn ôl.
.........................................
2.07pm
Eitem
2: Cwestiynau i Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 3 ei ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio.
.........................................
Eitem 3: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar gynnydd y Byrddau Iechyd Lleol - Ni chyflwynwyd cynnig
.........................................
2.55pm
Eitem
4: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4175 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn mynegi pryder nad oes cydraddoldeb i gleifion ledled Cymru o ran mynediad at feddyginiaethau.
2) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd camau i wella atebolrwydd am benderfyniadau’n ymwneud â darparu cyffuriau.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau na fydd yr arbedion sy’n deillio o roi terfyn ar batentau ar gyffuriau cyffredin ac ar yr ail-negodi diweddar ar brisiau cyffuriau yn cael ei ailddyrannu o'r gyllideb feddyginiaeth hyd nes yr archwilir pob
llwybr ar gyfer cyllido cyffuriau newydd, drud.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
1 |
33 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig.
.........................................
3.50pm
Eitem
5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4176 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i dorri’r gyllideb ar gyfer cynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal er mwyn ariannu’r broses o droi’n organig yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
gresynu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi methu asesu’n llawn y galw am y cynllun troi’n organig ac wedi methu ei gyllido’n ddigonol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
32 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i adfer y gyllideb ar gyfer cynllun amaeth-amgylchedd
Tir Gofal cyn gynted ag sy’n bosibl.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
0 |
33 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
0 |
33 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig.
.........................................
4.34pm
Cynnig
i atal y Rheolau Sefydlog
NNDM4178 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 7.19 sy’n nodi bod rhaid i welliannau gael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith cyn bod y cynnig i gael ei drafod a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y cyfarfod llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 6 gael ei ystyried yn y cyfarfod llawn ddydd Mercher 11 Mawrth 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
4.35pm
Eitem
6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NNDM4177 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailedrych ar ei chefnogaeth ariannol ar gyfer addysg ôl-16.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant
1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) - Yn unol â Rheol Sefydlog 7.19 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant hwn
Dileu
popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol Cymru”
a rhoi yn ei le "nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cefnogaeth ar gyfer addysg ôl-16 yn unol â Chytundeb Cymru’n Un”.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi’n ddigonol mewn Addysg ôl-16 yng Nghymru i sicrhau bod ein pobl ifanc yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol er mwyn cyfrannu at ein datblygiad economaidd yn y dyfodol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i dorri cyllid ar gyfer addysg ôl-16
yng Nghymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi â phryder effaith andwyol bosibl torri’r cyllid ar gyfer addysg
ôl-16 ar ddatblygiad addysgol parhaus pobl ifanc yng Nghymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig.
.........................................
5.29pm
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
5.32pm
Eitem
7: Dadl fer
NDM4174 Ann Jones (Dyffryn Clwyd):
A yw ITV wedi colli ei ffordd yn foesol? Gwybodaeth newyddion i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain
………………………………