Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (196)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Mai 2010
Amser: 13.30
Cafodd Peter Black ei ethol fel Dirprwy Lywydd dros dro.
.……………………
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl.
.……………………
14.21
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
.……………………
14.31
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Demensia
.……………………
15.03
Eitem 4: Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2010
NDM4469 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2010.
Derbyniwyd y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.……………………
15.04
Eitem 5: Dadl ar y Gwasanaethau Tân ac Achub
NDM4471 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu’r cynnydd a wnaed gan ein Hawdurdodau Tân ac Achub i leihau tanau.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nifer uchel yr ymosodiadau tanau bwriadol a fu'n ddiweddar a'u heffaith ar Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
30 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4471 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu’r cynnydd a wnaed gan ein Hawdurdodau Tân ac Achub i leihau tanau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig.
…………………..
15.43
Eitem 6: Dadl ar y Diwydiannau Creadigol
NDM4470 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n nodi: 'Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru' ac yn croesawu cynigion Llywodraeth y Cynulliad i ymateb i'r adolygiad yn y modd a ddisgrifir yn y 'Datganiad Gweinidogol ar Adolygiad Hargreaves'.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y gagendor digidol sy'n dal i fodoli yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
29 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4470 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n nodi: 'Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru' ac yn croesawu cynigion Llywodraeth y Cynulliad i ymateb i'r adolygiad yn y modd a ddisgrifir yn y 'Datganiad Gweinidogol ar Adolygiad Hargreaves'.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
11 |
0 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.
16.25
Y cyfnod pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 16.27
.………………………