Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (53)
Dyddiad:Dydd Mercher, 12 Mawrth 2008
Amser: 12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 7 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio.………………………………
1.09pm
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.
………………………………
1.53pm
Eitem 3: Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4, 6 a 12 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai.
………………………………
2.30pm
Eitem 4: Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Gofynnwyd pob cwestiwn.
………………………………
2.32pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3896 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y gyfres o doriadau yng nghyllideb diogelwch ar y ffyrdd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2008-09, 2009-10 a 2010-11.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith ffyrdd sydd wedi’i gynnal a’i gadw’n dda i hwyluso gyrru mwy diogel.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)Dileu pwynt 1.
Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn galw am ragdybiaeth bod terfyn cyflymder o 20 mya o amgylch pob ysgol yng Nghymru.”
Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:“Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu cyfres o fannau gorffwys ar raddfa fach ar hyd yr A55
.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y pleidleisiau:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
35 |
0 |
13 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3896 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith ffyrdd sydd wedi’i gynnal a’i gadw’n dda i hwyluso gyrru mwy diogel.
2.
Yn galw am ragdybiaeth bod terfyn cyflymder o 20 mya o amgylch pob ysgol yng Nghymru
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
3.19pm
Eitem 6: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3897 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal ei hasesiad annibynnol ei hun o’r effaith ar y Gymraeg cyn ymgynghori ar gau unrhyw ysgolion ac i gyhoeddi’r adroddiad er mwyn iddo allu bod yn sail i’r broses ymgynghori.
2. Yn credu y dylai’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg gomisiynu asesiad effaith o’r fath nes sefydlir Swyddfa Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, ac yn dilyn hynny dylid trosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r Comisiynydd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
“1. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddiwygio a chryfhau’r
cyfarwyddyd a roddir i awdurdodau lleol yng Nghymru ar ad-drefnu a chau ysgolion, gan gynnwys asesu eu heffaith ar y Gymraeg.”
Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 2 dileu “dylai’r” a rhoi yn ei le “dylid cynhyrchu’r cyfarwyddyd ar ôl ymgynghori â’r”
Gwelliant 3 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl “Gymraeg”.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y pleidleisiau:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
41 |
0 |
9 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant .1
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
39 |
0 |
8 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
41 |
0 |
9 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3897 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal ei hasesiad annibynnol ei hun o’r effaith ar y Gymraeg cyn ymgynghori ar gau unrhyw ysgolion ac i gyhoeddi’r adroddiad er mwyn iddo allu bod yn sail i’r broses ymgynghori.
2. Yn credu y dylid cynhyrchu’r cyfarwyddyd ar ôl ymgynghori â’r
Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
41 |
0 |
9 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
4.05pm
Eitem 7: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM3898 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y contract deintyddol newydd wedi bod ar waith ers dwy flynedd;
2. Yn nodi’r anawsterau a gaiff nifer o bobl yng Nghymru o hyd wrth geisio cael gafael ar un o ddeintyddion y GIG a bod nifer o ddeintyddion y GIG yn teimlo bod y contract newydd yn anfoddhaol;
3. Yn nodi â phryder bod y contract deintyddol wedi methu datrys nifer o broblemau deintyddiaeth y GIG;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal adolygiad brys o Ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru gyda’r bwriad o ddisodli’r Contract Deintyddol gyda fersiwn wedi’i ailddrafftio gyda phwyslais cryf ar ofal ataliol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys fel pwynt 1 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn:“Yn derbyn y bu Llywodraeth y Cynulliad yn anghywir yn ei haeriad y byddai’r contract deintyddol newydd yn galluogi pawb a oedd angen deintydd GIG i gael gafael ar un.”
Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Rhoi “bron”
cyn “dwy”
ym mhwynt 1.
Gwelliant 3 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
“2. Yn croesawu’r ffaith bod miloedd o leoedd deintyddol ychwanegol yn eu lle yn y GIG yng Nghymru;”
Gwelliant 4 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) – tynnwyd gwelliant 4 yn ôl
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
“3. Yn cymeradwyo penderfyniad y Gweinidog Iechyd, fel y’i hysbysodd i’r Cynulliad mewn datganiad llafar ar 17 Tachwedd 2007, i sefydlu grwp gorchwyl a gorffen i gyflwyno adroddiad ar sut i wella’r ffordd y mae’r contract yn gweithio, ac yn edrych ymlaen at weld ei gyhoeddi.”
Gwelliant 5 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)Dileu pwynt 4.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y pleidleisiau:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
40 |
0 |
10 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3
Tynnwyd gwelliant 4 yn ôl, gyda chytundeb y Cynulliad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 5
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3898 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y contract deintyddol newydd wedi bod ar waith ers bron dwy flynedd;
2. Yn croesawu’r ffaith bod miloedd o leoedd deintyddol ychwanegol yn eu lle yn y GIG yng Nghymru;
3. Yn nodi â phryder bod y contract deintyddol wedi methu datrys nifer o broblemau deintyddiaeth y GIG;
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
4.55pm
Gohiriwyd y cyfarfod.
5.00pm
Bu i’r cyfarfod ailymgynnull ar gyfer y cyfnod pleidleisio.
………………………………
5.06pm
Eitem 8: Dadl fer
NDM3899 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Gwleidyddiaeth boblogaidd - ailddyfeisio democratiaeth drwy roi’r bobl wrth y llyw.
………………………………
Daeth y cyfarfod i ben am 5.27pm
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 8 Ebrill 2008
Ysgrifenyddiaeth y Siambr