Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (130)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Mai 2009
Amser: 1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
………………………
14.31
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.42
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd
………………………
15.10
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymchwiliad i Gynghorau Iechyd Cymunedol
………………………
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: hynt y Rhaglen Mynediad i Gefn Gwlad - i'w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig
………………………
Eitem 6: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: polisi arloesol Cynllunio ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd - i'w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig
………………………
15.40
Eitem 7: Cynnig i gymeradwyo Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Mesur Diwygio Lles o dan Reol Sefydlog 26
NDM4206 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai darpariaethau Rhan 2 o Fesur Seneddol Diwygio Lles (Pobl Anabl: Hawl i Reoli Darparu Gwasanaethau), fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 18 Mawrth 2009, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
15.45
Eitem 8: Dadl ar y Strategaeth Dringo’n Uwch - Cynllun Gweithredu Strategol i Greu Cymru Egnïol
NDM4207 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn croesawu’r ymgynghoriad ar y fersiwn ddrafft o Gynllun Gweithredu Strategol Dringo’n Uwch: Creu Cymru Egnïol, ac yn cefnogi’i gweledigaeth a’i chyfeiriad o ran cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gydag Awdurdodau Lleol a Meysydd Chwarae Cymru i sicrhau bod mwy o fannau cyhoeddus ar gael ar gyfer gweithgareddau awyr agored, chwaraeon a rhandiroedd drwy ailddechrau defnyddio tir sy’n eiddo cyhoeddus a safleoedd tir llwyd.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
32 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd o ran mynd i’r afael â lefelau gordewdra sy’n codi yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddefnyddio’r cyfleoedd a gyflwynir gan 'Dringo’n Uwch: Creu Cymru Egnïol’ i fynd i’r afael â gordewdra er mwyn lleihau’r canlyniadau posibl i GIG Cymru yn y dyfodol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
33 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4207 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn croesawu’r ymgynghoriad ar y fersiwn ddrafft o Gynllun Gweithredu Strategol Dringo’n Uwch: Creu Cymru Egnïol, ac yn cefnogi’i gweledigaeth a’i chyfeiriad o ran cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
For |
Abstain |
Against |
Total |
---|---|---|---|
37 |
8 |
0 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.
…………………………