Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (131)
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Mai 2009
Amser:
13.30
Eitem 1: Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol
Gofynnwyd y 2 gwestiwn cyntaf.
.........................................
13.34
Eitem
2: Cwestiynau i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofynnwyd 9 cwestiwn. Cafodd cwestiwn 6 ei dynnu yn ôl a throsglwyddwyd cwestiwn 7 i’w ateb yn ysgrifenedig.
.........................................
14.13
Eitem
3: Cwestiynau i'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.
.........................................
14.56
Eitem
4: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am Ffliw Moch
.........................................
15.16
Eitem
5: Cynnig i ethol Aelod i’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth
NDM4212 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol David Melding (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn lle Mark Isherwood (Ceidwadwyr).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
15.17
Cyhoeddodd y Llywydd ganlyniadau’r balot i Aelodau gyflwyno cynigion ar gyfer deddfwriaeth. Y canlyniadau oedd:
Enillwyd
y Balot ar gyfer cyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol gan Joyce Watson, gyda’i chynnig ar arwynebau caled.
Enillwyd y Balot ar gyfer cyflwyno Mesur gan Janet Ryder, gyda’i chynnig ar asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg.
.........................................
15.18
Eitem
6: Dadl Cyfnod 1 ar Fesur Arfaethedig Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
NDM4209 Jeff Cuthbert (Caerffili)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 23.95:
Yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd
Mesur Arfaethedig Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 25 Mawrth 2009.
NDM4208 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fesur Arfaethedig Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(i), sy’n codi o ganlyniad iddi.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
15.32
Eitem
7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4210 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi’r ymgyrch dros ddangos yn gliriach ar labeli y wlad lle tarddodd y bwyd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
8 |
0 |
41 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu "Yn cefnogi’r ymgyrch dros ddangos” a rhoi "Yn cefnogi dangos” yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
40 |
0 |
10 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ar ôl 'bwyd', rhoi:
"ac yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o 'Nod Barcud Bwyd Cymru’ ar gyfer cynhyrchion
bwyd sydd wedi’u cynhyrchu, eu prosesu a’u pacio yng Nghymru”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4210 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi dangos yn gliriach ar labeli y wlad lle tarddodd y bwyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
40 |
0 |
9 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
16.31
Eitem
8: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM4211 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wyrdroi ei phenderfyniad i ddileu’r grant ffioedd dysgu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
0 |
33 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
[Os derbynnir Gwelliant 1, caiff Gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
"1.
Yn cydnabod y cyfyngiadau ar y gyllideb a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ffioedd dysgu myfyrwyr ac yn gorfod gweithredu oddi tani;
2.
Yn croesawu cynigion newydd i leddfu dyled myfyrwyr, gwella’r cymorth i’r myfyrwyr lleiaf cyfoethog, cynyddu nifer y graddedigion yn economi Cymru, a chynyddu faint o adnoddau sydd ar gael i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
2 |
16 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
[Gan y derbyniwyd gwelliant 1, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru) - dad-ddetholwyd
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi â phryder yr effaith bosibl y bydd dileu'r grant ffioedd dysgu yn ei chael ar fyfyrwyr
o Gymru ac ar eu hastudiaethau.”
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4211 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfyngiadau ar y gyllideb a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ffioedd dysgu myfyrwyr ac yn gorfod gweithredu oddi tani;
2. Yn croesawu cynigion newydd i leddfu dyled myfyrwyr, gwella’r cymorth i’r myfyrwyr lleiaf cyfoethog, cynyddu nifer y graddedigion yn economi Cymru, a chynyddu faint o adnoddau sydd ar gael i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
32 |
2 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
17.44
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
17.46
Eitem
9: Dadl fer
NDM4213 Jenny Randerson (Canol Caerdydd)
Degawd o ddatganoli - sut y byddai wedi gallu bod.
.........................................