Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (65)
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Mai 2008
Amser: 12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl a throsglwyddwyd cwestiwn 6 i’w ateb yn ysgrifenedig.
………………………………
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd Cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau. Trosglwyddwyd Cwestiwn 3 i’w ateb yn ysgrifenedig a thynnwyd Cwestiwn 7 yn ôl.
………………………………
2.43pm
Eitem 3: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: Grant Ad-dalu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
………………………………
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog
NNDM3940 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion dan eitem 4 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 14 Mai 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
Eitem 4: Cynigion i sefydlu ac ethol Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Teithio gan Ddysgwyr
NNDM3941 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 21.1, yn sefydlu pwyllgor i ystyried trafodion Cyfnod 2 y Mesur Arfaethedig ynghylch Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) ac i gyflwyno adroddiad arno. Bydd y pwyllgor yn dod i ben os bydd y Mesur yn cael ei basio, os bydd yn syrthio neu os caiff ei dynnu yn ôl.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
NNDM3942 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Lorraine Barrett (Llafur), Ann Jones (Llafur), Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru), Alun Cairns (Ceidwadwyr) a Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o’r Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Teithio gan Ddysgwyr.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
Eitem 5: Dadl yn ceisio caniatâd y Cynulliad i gyflwyno Mesur Arfaethedig Aelod ynghylch Gwasanaethau Ieuenctid
NDM3918 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.103,
yn caniatáu i Peter Black gyflwyno Mesur arfaethedig er mwyn gweithredu’r wybodaeth cyn y balot a ddarparwyd ar 6 Rhagfyr 2007 dan Reol Sefydlog 23.102.
Gohiriwyd y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
29 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig.
………………………………
2.53pm
Eitem 6: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3934 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y codiadau serth diweddar ym mhrisiau bwydydd hanfodol a’r pwysau cynyddol y mae hyn yn ei roi ar gyllidebau aelwydydd;
2. Yn nodi bod y codiadau ym mhrisiau tanwydd, gwrtaith a grawn wedi cynyddu costau cynhyrchu ffermwyr Cymru’n sylweddol;
3. Yn gresynu bod arferion archfarchnadoedd, gormod o fiwrocratiaeth ac amodau’r farchnad wedi gwneud ffermio’n fwy anghynaliadwy yn ystod oes Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
4. Yn nodi bod y cynnydd ym mhrisiau nwyddau amaethyddol yn effeithio’n uniongyrchol ar ddyfodol cynlluniau amaeth-amgylchedd yng Nghymru;
5. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu Strategaeth Cynhyrchu Bwyd ar gyfer Cymru, i gynyddu cynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym Mhwynt 3 dileu popeth ar ôl "ffermio’n”
a rhoi yn ei le "anodd yn y gorffennol ac yn croesawu’r camau a gymerwyd gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig wrth fynd i’r afael â biwrocratiaeth ac wrth alw am greu Ombwdsmon Archfarchnadoedd”
Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym Mhwynt 4 dileu "bod y cynnydd ym mhrisiau nwyddau amaethyddol yn”
a rhoi yn ei le "y gall y cynnydd ym mhrisiau nwyddau amaethyddol yn ogystal â’r newid ym mhris yr Ewro”
.
Gwelliant 3 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym Mhwynt 4 dileu "ddyfodol cynlluniau”
a rhoi yn ei le "gynlluniau”
Gwelliant 4 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
"Yn credu y bydd hybu bwyd lleol o fudd i’r diwydiant ffermio yng Nghymru, yn gwella diogelwch bwyd ac yn cynyddu cynhyrchu bwyd cynaliadwy.”
Gwelliant 5 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym Mhwynt 5 dileu popeth ar ôl "rhanddeiliaid”
a rhoi yn ei le "i barhau â menter glodwiw y Gweinidog i baratoi strategaeth ar fwyd a ffermio”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y pleidleisiau:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
4 |
10 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
35 |
0 |
9 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
0 |
14 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
0 |
14 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
1. Yn cydnabod y codiadau serth diweddar ym mhrisiau bwydydd hanfodol a’r pwysau cynyddol y mae hyn yn ei roi ar gyllidebau aelwydydd;
2. Yn nodi bod y codiadau ym mhrisiau tanwydd, gwrtaith a grawn wedi cynyddu costau cynhyrchu ffermwyr Cymru’n sylweddol;
3. Yn gresynu bod arferion archfarchnadoedd, gormod o fiwrocratiaeth ac amodau’r farchnad wedi gwneud ffermio’n anodd yn y gorffennol ac yn croesawu’r camau a gymerwyd gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig wrth fynd i’r afael â biwrocratiaeth ac wrth alw am greu Ombwdsmon Archfarchnadoedd;
4. Yn nodi y gall y cynnydd ym mhrisiau nwyddau amaethyddol yn ogystal â’r newid ym mhris yr Ewro effeithio’n uniongyrchol ar ddyfodol cynlluniau amaeth-amgylchedd yng Nghymru;
5. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i barhau â menter glodwiw y Gweinidog i baratoi strategaeth ar fwyd a ffermio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
12 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
3.45pm
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3935 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig, ond yn nodi heb ragor o waith i fynd i’r afael â’r anawsterau penodol y mae oedolion ag awtistiaeth yn eu hwynebu, y byddant yn dal yn ynysig ac yn cael eu hanwybyddu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn credu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gefnogi awdurdodau lleol i roi gwybodaeth a hyfforddiant diweddar am awtistiaeth i staff cefnogaeth gofal cymdeithasol priodol.”
Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru:
a) i’w gwneud yn ofyniad ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gofnodi nifer yr oedolion sydd ag awtistiaeth yn gywir.
b) i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ac i fyrddau iechyd lleol ynghylch sut mae cofnodi nifer yr oedolion sydd ag awtistiaeth yn gywir.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y pleidleisiau:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
30 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
31 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
41 |
0 |
0 |
41 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………………
4.40pm
Cyfnod pleidleisio
………………………………
4.45pm
Eitem 8: Dadl Fer
NDM3933 Christine Chapman (Cwm Cynon):
Gwneud cymunedau’n hapusach.
………………………………