Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (213)
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Gorffennaf
2010
Amser: 13.30
Enwebwyd Peter Black yn Ddirprwy Lywydd dros dro am weddill y cyfarfod.
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl.
.........................................
14.14
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.
.........................................
14.52
Cwestiwn
Brys
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar oblygiadau penderfyniad y Llys Apêl mewn perthynas â'r rhaglen arfaethedig i ddifa moch daear?
.........................................
15.21
Eitem
3: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes: Nifer y Myfyrwyr sydd mewn Addysg Uwch yng Nghymru
.........................................
16.00
Eitem
4: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol)(Cymru) 2010
NDM4527 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
16.07
Eitem
5: Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010
NDM4528 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
Eitem 6: Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd yr un cwestiwn.
.........................................
16.08
Eitem
7: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar ddarpariaeth arbenigol i bobl ifanc ag awtistiaeth mewn addysg bellach
NDM4530 Gareth Jones (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar y Ddarpariaeth arbenigol i bobl ifanc ag awtistiaeth mewn addysg bellach a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2010.
Sylwer: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Gorffennaf 2010
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
Eitem
8: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant mewn Gofal yng Nghymru - Gohiriwyd y ddadl
.........................................
16.48
Eitem
9: Datganiad deddfwriaethol am y Mesur Arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru) (Ann Jones)
.........................................
Eitem
10: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Gohiriwyd y ddadl
.........................................
17.13
Eitem
11: Dadl fer
NDM4531 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):
Abertawe - Prifddinas Ranbarthol
.........................................
Daeth y cyfarfod i ben am 17.38