Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (39)
Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Ionawr 2008
Amser: 12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl.
………………………………
1.01pm
Eitem 2: Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1, 6 a 7 yn ôl; a throsglwyddwyd cwestiwn 4 i’w ateb yn ysgrifenedig. Cafodd cwestiynau 2 a 3 eu grwpio ac fe’u hatebwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio.
………………………………
1.32pm
Eitem 3: Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Penodi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
………………………………
2.02pm
Eitem 4: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3840 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod byrdwn gormodol biwrocratiaeth ar ffermwyr ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gefnogi rhaglen waith i leihau biwrocratiaeth yn sylweddol yn y diwydiant amaethyddol yn ystod 2008.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi yn ei le:
"Yn cydnabod yr angen i leihau’r baich rheoleiddiol ar ffermwyr gymaint â phosibl o fewn gofynion deddfwriaeth ewropeaidd a domestig.”
Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i leihau biwrocratiaeth a mân reolau drwy symud tuag at archwiliadau ar y fferm unedig.”
Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu wrth yr anghysondebau gweinyddol a rheoleiddiol a arweiniodd at oedi cyn rhyddhau taliadau Tir Gofal ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3840 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod yr angen i leihau’r baich rheoleiddiol ar ffermwyr gymaint â phosibl o fewn gofynion deddfwriaeth ewropeaidd a domestig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
42 |
0 |
10 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
3.01pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3841 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ystyried cyflwyno cynllun i ddefnyddio llai o fagiau plastig.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gyflwyno ardoll ar fagiau plastig a defnyddio’r refeniw a gynhyrchir o hyn ar gyfer gwelliannau amgylcheddol.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………………
3.57pm
Eitem 6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM3842 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ar 7 Mehefin 2005, roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio i "gyfarwyddo’r Llywodraeth i beidio â’i gwneud yn ofynnol i gardiau adnabod gael eu defnyddio i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd o fewn cylch gwaith y Cynulliad.”
2. Yn galw ar Lywodraeth gyfredol y Cynulliad i gynnal y polisi hwn.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi anallu Llywodraeth y DU i sicrhau diogelwch data personol unigolion.”
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ymhellach ar Lywodraeth y Cynulliad cyfredol i annog Llywodraeth y DU i roi’r gorau i gynlluniau ar gyfer cardiau adnabod gorfodol.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………………
4.50pm
Gohiriwyd y cyfarfod.
5.00pm
Bu i’r cyfarfod ailymgynnull i bleidleisio ar y cynigion a’r gwelliannau.
………………………………
5.03pm
Eitem 7: Dadl fer
NDM3839 Mark Isherwood (Gogledd Cymru):
Anrhydeddu’r Cyfamod - y cytundeb rhwng y genedl a’r lluoedd arfog, yn addo cefnogaeth a gofal yn gyfnewid am wasanaeth.
………………………………