Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (186)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2010
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
………………………
14.21
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
Eitem 3: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Blant: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant - Gohiriwyd tan 23 Mawrth 2010
………………………
14.50
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: Cymunedau yn Gyntaf
………………………
15.36
Eitem 5: Cynnig i gymeradwyo’r Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010
NNDM4438 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2010.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
16.00
Eitem 6: Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Diddymu) (Cymru) 2010
NNDM4437 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Diddymu) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
16.00
Eitem 7: Dadl ar Glastir
NNDM4439 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod y Comisiwn Ewropeaidd yn cymeradwyo elfen Cymru gyfan Glastir cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2012.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu wrth y diffyg eglurder ynghylch Glastir ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi sylw ar fyrder i’r pryderon a godwyd yn y llythyr at y Gweinidog gan Gadeirydd yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig ar 2 Mawrth 2010.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
30 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 1
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NNDM4439 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod y Comisiwn Ewropeaidd yn cymeradwyo elfen Cymru gyfan Glastir cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2012.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
16.49
Eitem 8: Dadl ar Dwristiaeth
NDM4432 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod cyfraniad twristiaeth i les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru, a’r rhan y mae’n ei chwarae o ran gwella enw da Cymru yn y byd.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:Gwelliant
1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu wrth y diffyg blaenoriaeth a ddangoswyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o ran marchnata Cymru a datblygu'r cynnyrch twristiaeth.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn credu bod angen hyrwyddo twristiaeth Cymru'n fwy effeithiol o lawer yn y DU ac mewn marchnadoedd tramor.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4432 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod cyfraniad twristiaeth i les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru, a’r rhan y mae’n ei chwarae o ran gwella enw da Cymru yn y byd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
36 |
9 |
0 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
Eitem 9: Dadl ar y Gyllideb Atodol
NDM4424 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 27.21, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009-10, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 23 Chwefror 2010.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o’r Ddeddf;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb y bloc Cymreig am y flwyddyn ariannol sydd o dan sylw yn y cynnig;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb y bloc Cymreig gan y Trysorlys a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig cyllideb;
(iv) cysoniad rhwng yr amcangyfrif o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig cyllideb; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).