Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (138)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2009
Amser:
13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl.
………………………
14.29
Eitem
2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
Eitem
3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am y frech goch - i’w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig
………………..
14.51
Eitem
4: Datganiad deddfwriaethol gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd eraill) 2009
………………..
15.24
Eitem
5: Dadl ar yr adolygiad o ddigwyddiadau darlledu-am-ddim
NDM4240 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod pwysigrwydd hawliau darlledu'r prif ddigwyddiadau chwaraeon i Gymru, fel sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan Adolygiad Digwyddiadau Darlledu- am- Ddim Llywodraeth ei Mawrhydi.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
16.03
Eitem
6: Dadl ar goedwigaeth
NDM4239 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cefnogi ei chyfarwyddyd a’i
gweledigaeth i gynyddu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol drwy reoli coetiroedd a choed mewn ffordd gynaliadwy.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig;
'Yn
cydnabod cyfraniad chwaraeon gwledig i reoli coedwigaeth C
ymru.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
11 |
0 |
34 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4239 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
croesawu strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cefnogi ei chyfarwyddyd a’i gweledigaeth i gynyddu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol drwy reoli coetiroedd a choed mewn ffordd gynaliadwy.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
36 |
8 |
0 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.
…………………………