Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (139)
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Mehefin
2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Tynnwyd y cwestiwn yn ôl.
.........................................
13.30
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofynnwyd 9 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 2 a 6 eu grwpio i’w hateb. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl.
.........................................
Eitem 3: Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofynnwyd 9 cwestiwn. Atebwyd cwestiynau 2 a 5 gan y Dirprwy Weinidog dros Dai.
.........................................
14.52
Pwynt
o drefn
Cododd Jonathan Morgan bwynt o drefn ynghylch cyfrifoldebau portffolio Gweinidogion.
.........................................
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am ffliw moch - i’w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig
.........................................
14.59
Eitem
5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4241 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r heriau penodol y mae ardaloedd gwledig yn eu hwynebu yn ystod y dirwasgiad.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
31 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
nodi’r angen brys am well cysylltiadau band eang yng Nghymru wledig.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn credu y dylai trefniadau caffael mewn awdurdodau lleol gwledig gefnogi busnesau lleol, lle
bynnag y bo hynny’n bosibl.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i beidio â gwneud newidiadau i reoliadau dŵr
yng Nghymru ar hyn o bryd os bydd hynny’n golygu cynnydd sylweddol yn y gost i fusnesau bach gwledig.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
31 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4241 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r heriau penodol y mae ardaloedd gwledig yn eu hwynebu yn ystod y dirwasgiad.
2. Yn nodi’r angen brys am well cysylltiadau band eang yng Nghymru wledig.
3. Yn credu y dylai trefniadau caffael mewn awdurdodau lleol gwledig gefnogi busnesau lleol, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
16.09
Eitem
6: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4242 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i amlinellu ei blaenoriaethau yng nghyllideb y GIG dros y blynyddoedd ariannol i ddod, a chofio’r cyfyngiadau arfaethedig ar gyllid y sector cyhoeddus, er mwyn cynnig dyfodol diogel a chynaliadwy i’r GIG yng Nghymru.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
32 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i nodi sut y bydd yn diogelu gwasanaethau rheng flaen yn y GIG.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
32 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, nid yw'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
.........................................
17.24
Eitem
7: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM4243 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) bod nifer y babanod sydd ag angen gofal mewn unedau newyddenedigol yn cynyddu;
b) bod prinder staff nyrsio a meddygol ar gael i ofalu am y babanod hyn ac mae hyn yn peri pryder;
c) nad oes system ar waith i gydlynu'r gofal a chludo babanod o amgylch unedau newyddenedigol yng Nghymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) ymrwymo i strategaeth recriwtio hirdymor i sicrhau bod digon o nyrsys newyddenedigol, bydwragedd ac ymgynghorwyr newyddenedigol i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru;
b) yn darparu system drafnidiaeth newyddenedigol benodol sy’n gallu cludo babanod a’u teuluoedd pan fo angen.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
10 |
2 |
32 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1a) a rhoi yn ei le:
"2. Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru i:
a)
gyhoeddi Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Gwasanaethau Newyddenedigol;
b)
buddsoddi £4 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd o 2009-10 i gyflawni’r blaenoriaethau ar gyfer Gwasanaethau Newyddenedigol;
c)
gweithredu system drafnidiaeth newyddenedigol ar draws Cymru, datblygu rhwydweithiau clinigol i wella’r gofal a roddir i fabanod sydd angen triniaeth arbenigol, datblygu system wybodaeth glinigol a recriwtio staff nyrsio a meddygol ychwanegol i gryfhau’r
gwasanaeth.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
32 |
7 |
5 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal archwiliad o wasanaethau cwnsela a ddarperir
i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i farwenedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
mynegi pryder ynghylch nifer isel y patholegwyr amenedigol sydd yng Nghymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i godi ymwybyddiaeth o farwenedigaeth a marwolaeth
newyddenedigol fel mater iechyd cyhoeddus allweddol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM4243 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) bod nifer y babanod sydd ag angen gofal mewn unedau newyddenedigol yn cynyddu;
2. Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) gyhoeddi Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Gwasanaethau Newyddenedigol;
b) buddsoddi £4 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd o 2009-10 i gyflawni’r blaenoriaethau ar gyfer Gwasanaethau Newyddenedigol;
c) gweithredu system drafnidiaeth newyddenedigol ar draws Cymru, datblygu rhwydweithiau clinigol i wella’r gofal a roddir i fabanod sydd angen triniaeth arbenigol, datblygu system wybodaeth glinigol a recriwtio staff nyrsio a meddygol ychwanegol i gryfhau’r gwasanaeth.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal archwiliad o wasanaethau cwnsela a ddarperir i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i farwenedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol.
4. Yn mynegi pryder ynghylch nifer isel y patholegwyr amenedigol sydd yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i godi ymwybyddiaeth o farwenedigaeth a marwolaeth newyddenedigol fel mater iechyd cyhoeddus allweddol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
7 |
5 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
18.09
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
18.16
Eitem
8: Dadl fer
NDM4243 Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Addysg ôl-16
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................