Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (162)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
………………………
14.38
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.45
Eitem 3: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: y papur gwyrdd ar dalu am ofal
………………………
15.32
Eitem 4: Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog
NDM4330 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 27.2, er mwyn caniatáu i’r cynnig ar y gyllideb ddrafft gan y Llywodraeth gael ei wneud.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
15.32
Eitem 5: Dadl ar y gyllideb ddrafft
NDM4324 Andrew Davies (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.6:
Yn nodi’r gyllideb ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2010-2011 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ar 5 Hydref 2009.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu nad yw’r gyllideb ddrafft yn ystyried yn ddigonol y sialensiau sy’n wynebu Cymru mewn dirwasgiad economaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad yw’r gyllideb ddrafft yn gwneud unrhyw gynnydd tuag at fynd i’r afael â’r bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr ym maes addysg a sgiliau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
34 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod y Prif Grŵp Gwariant llywodraeth leol yn annigonol ac y gall arwain at godi’r dreth gyngor neu gwtogi ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fod wedi rhoi mwy o gymorth ariannol ar gyfer datblygu economaidd yn y gyllideb ddrafft.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
34 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailddrafftio’r gyllideb hon er mwyn rhoi sylw i’r pwysau ariannol sy’n deillio o’r dirywiad economaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu mai Cymru yw rhan dlotaf y DU o hyd ar ôl deg cyllideb gan Lywodraeth y Cynulliad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
10 |
4 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymateb yn ddigonol i anghenion Cymru yn ystod y dirwasgiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
34 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r gyllideb ddrafft yn cydnabod pwysigrwydd addysg a hyfforddiant i baratoi Cymru ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
34 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i drosglwyddo cyllid o elfennau o gymorth busnes i dalu am ymestyn y trothwyon rhyddhad, er mwyn cynyddu nifer y busnesau a fydd yn elwa ar y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
7 |
0 |
42 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) - Yn unol â Rheol Sefydlog 7.19 (iii), ni ddetholwyd y gwelliant hwn.
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wyrdroi ei 5% o 'enillion effeithlonrwydd’ arfaethedig yn y cyllidebau addysg uwch ac ôl-16.
Gwelliant 11 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddechrau mynd ati’n gyflymach i newid ffocws ei chyllideb trafnidiaeth at ffurfiau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
34 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried rhewi’r gyllideb Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu, cynyddu’r arbedion effeithlonrwydd yn yr Adran Iechyd ac arbedion yng ngweithrediad cyrff a noddir er mwyn buddsoddi mewn diwydiannau gwyrdd newydd ac sy’n datblygu - yn enwedig cynhyrchu ynni gwyrdd, technegau adeiladu gwyrdd a thwristiaeth werdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
7 |
8 |
34 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 12.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig.
NDM4324 Andrew Davies (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.6:
Yn nodi’r gyllideb ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2010-2011 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ar 5 Hydref 2009.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
0 |
14 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
17.48
Eitem 6: Dadl ar ddiogelu ac amddiffyn plant yng Nghymru
NDM4325 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu cyhoeddiad adroddiadau Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar ddiogelu ac amddiffyn plant yng Nghymru;
2. Yn nodi’r gwelliannau sydd wedi’u sicrhau a’r gwaith sydd eto i’w gyflawni gan y GIG, awdurdodau lleol a’u partneriaid; ac
3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i fwrw ati â gwaith gyda’r holl asiantaethau statudol, yn ddatganoledig ac fel arall, ac i fynd i’r afael â’r materion hyn.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnwys fel pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
3. Yn nodi’r pryder a fynegwyd ynghylch effaith diwygiadau’r GIG ar Fyrddau Lleol Diogelu Plant ac yn galw ar y Gweinidog i amlinellu sut yr eir i’r afael â hyn.
4. Yn nodi â phryder bod nifer yr adolygiadau achosion difrifol yng Nghymru wedi dyblu yn ystod 07/08 ers y flwyddyn flaenorol a bod 50-60 o achosion eraill yn aros i gael eu hadolygu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder nifer staff y GIG nad yw eu gwiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol wedi cael eu cwblhau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid diffinio swyddogaethau a chyfrifoldebau’r Byrddau Lleol Diogelu Plant yn fwy trwyadl er mwyn sicrhau bod eu diben yn glir o ran amddiffyn plant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd camau i sicrhau cyfartaledd o ran mynediad at, cyllid i a chyflenwi gwasanaethau gan, Fyrddau Lleol Diogelu Plant ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig.
NDM4325 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu cyhoeddiad adroddiadau Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar ddiogelu ac amddiffyn plant yng Nghymru;
2. Yn nodi’r gwelliannau sydd wedi’u sicrhau a’r gwaith sydd eto i’w gyflawni gan y GIG, awdurdodau lleol a’u partneriaid; ac
3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i fwrw ati â gwaith gyda’r holl asiantaethau statudol, yn ddatganoledig ac fel arall, ac i fynd i’r afael â’r materion hyn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
40 |
6 |
1 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.
.........................................