Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (96)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2008
Amser:
1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Atebwyd pob cwestiwn. Cafodd cwestiynau 4 a 9 eu grwpio gyda’i gilydd i’w hateb. Tynnwyd cwestiynau 12 a 15 yn ôl.
………………………
2.30pm
Eitem
2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
2.41pm
Eitem
3: Dadl ar y gyllideb ddrafft
NDM4056 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.6:
Yn nodi’r gyllideb
ddrafft ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2009-2010 a 2010-2011 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ar 7 Hydref 2008.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu wrth ddiffyg cefnogaeth ariannol barhaus
Llywodraeth Cynulliad Cymru i awdurdodau lleol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
32 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailddrafftio'r gyllideb hon er mwyn trosglwyddo'r codiad a gafodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y grant bloc i lywodraeth leol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu bod cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn methu â rhoi
sylw i’r pwysau ariannol sy’n deillio o gostau ynni uwch a’r dirywiad economaidd.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu’r setliad i
Lywodraeth Leol er mwyn atal codiadau sylweddol yn y dreth gyngor a lleihad mewn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn derbyn y bydd setliad y gyllideb ddrafft yn gwaethygu’r
bwlch ariannu mewn addysg uwch rhwng prifysgolion yng Nghymru ac yn Lloegr.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried
ffrydiau ariannu eraill, gan gynnwys y sector preifat, er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau rheng flaen a buddsoddiadau cyfalaf.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu bod lefel y cyllid cyfalaf ar gyfer
y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref wedi cael ei gwtogi mewn termau real dros y tair blynedd nesaf.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu na fydd y gyllideb ddrafft yn rhoi sylw
i raddfa’r argyfwng tai yng Nghymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi y bydd y cynnydd isel yng nghyllideb y
portffolio Economi a Thrafnidiaeth yn cyfyngu ar allu Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymateb i’r argyfwng economaidd.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
9 |
6 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
gresynu ar ôl naw cyllideb gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mai Cymru yw rhan dlotaf y DU o hyd.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
0 |
14 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
4.47pm
Eitem
4: Dadl ar gwmnïau cydweithredol a mentrau
NDM4057 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i hwyluso datblygiad cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn cydnabod bod mentrau cymdeithasol yn cyfuno
disgyblaeth busnesau preifat â’r sector cyhoeddus.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
41 |
2 |
0 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig.
.…………………………