Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (132)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mai 2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Cafodd cwestiynau 7 ac 11 eu grwpio i’w hateb.
………………………
14.39
Cwestiwn Brys
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith ad-drefnu ITV Cymru a gyhoeddwyd ddoe?
………………………
15.02
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
15.25
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Materion Twristiaeth
………………………
16.16
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig ar y Strategaeth Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad
………………………
17.05
Eitem 5: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannu'r Briffordd am Gyfnod Afresymol o Hir) (Cymru) 2009
NDM4214 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2009 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Rheoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannaeth a Ymestynnir yn Afresymol ar y Briffordd) (Cymru) 2009; a
2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Rheoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannaeth a Ymestynnir yn Afresymol ar y Briffordd) (Cymru) 2009, yn cael ei wneud yn unol ag:
a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ebrill 2009; a
b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ebrill 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
17.11
Eitem 6: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Trwyddedau Rheoli Traffig (Cymru) 2009
NDM4215 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2009 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Rheoliadau Cynlluniau Trwyddedau Rheoli Traffig (Cymru) 2009; a
2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Rheoliadau Cynlluniau Trwyddedau Rheoli Traffig (Cymru) 2009, yn cael ei wneud yn unol ag:
a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ebrill 2009; a
b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ebrill 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
17.14
Eitem 7: Dadl ar y Strategaeth Wastraff
NDM4216 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Wastraff Genedlaethol ddiwygiedig, Tuag at Ddyfodol Diwastraff
.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Dileu "croesawu” a rhoi "nodi” yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
34 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu wrth y diffyg tybiaethau ariannol yn y ddogfen ymgynghori, gan y cydnabyddir bod tybiaethau ariannol cadarn yn hanfodol ar gyfer dadl gyhoeddus onest.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
34 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi â phryder yr effaith a gaiff y gostyngiadau arfaethedig mewn gwariant cyhoeddus ar alluogi pob sector yng Nghymru i gyrraedd targed Llywodraeth Cynulliad Cymru i fod yn ailgylchu 70% o’u gwastraff erbyn 2025.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
34 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i egluro’r costau sy’n gysylltiedig â chyflawni 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff’
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
34 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4216 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Wastraff Genedlaethol ddiwygiedig, Tuag at Ddyfodol Diwastraff
.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
39 |
7 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig.
…………………………
Cyfnod pleidleisio 17.43
…………………………