Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (199)
Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Mai 2010
Amser:
13.30
Cafodd William Graham ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro.
.........................................
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 4 eu grwpio.
.........................................
14.06
Eitem
2: Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 3 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 5 ac 8 eu grwpio.
.........................................
14.46
Eitem
3: Cynnig i ethol aelod i’r Pwyllgor Busnes
NDM4478 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3:
Yn ethol Nick Ramsay (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Alun Cairns (Ceidwadwyr).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
14.46
Eitem
4: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4477 Nick Ramsay (Mynwy):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae Cymru yn ei chwarae wrth ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer canser;
2. Yn mynegi siom bod targedau ar gyfer amseroedd aros i gleifion canser yn cael eu methu’n gyson;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu cydgysylltydd canser annibynnol i godi ymwybyddiaeth o faterion canser a chymryd camau i sicrhau bod cyfraddau goroesi 5 mlynedd ar gyfer canser ymysg y gorau yn Ewrop.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
30 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn cydnabod y gwelliannau a wnaed o ran yr amseroedd aros ar gyfer cleifion canser dros y blynyddoedd diwethaf a’r angen i sicrhau bod y gwelliannau yn parhau
3. Yn cydnabod y gwelliannau yn y cyfraddau goroesi 5 mlynedd ar gyfer canser yng Nghymru a’r hyn a wnaed hyd yma i wireddu nod polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2015 sef sicrhau bod y cyfraddau goroesi yn cymharu’n debyg i’r gorau yn Ewrop.
4. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi elwa ers amser hir ar y cyngor annibynnol a roddir gan y Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
29 |
0 |
16 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 3, ar ôl 'Lywodraeth Cynulliad Cymru' rhoi 'edrych ar yr holl ddewisiadau posibl ar gyfer gwella gwasanaethau canser yng Nghymru, gan gynnwys a yw’n ymarferol'
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, dad-ddewiswyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4477 Nick Ramsay (Mynwy):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae Cymru yn ei chwarae wrth ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer canser;
2. Yn cydnabod y gwelliannau a wnaed o ran yr amseroedd aros ar gyfer cleifion canser dros y blynyddoedd diwethaf a’r angen i sicrhau bod y gwelliannau yn parhau
3. Yn cydnabod y gwelliannau yn y cyfraddau goroesi 5 mlynedd ar gyfer canser yng Nghymru a’r hyn a wnaed hyd yma i wireddu nod polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2015 sef sicrhau bod y cyfraddau goroesi yn cymharu’n debyg i’r gorau yn Ewrop.
4. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi elwa ers amser hir ar y cyngor annibynnol a roddir gan y Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
30 |
5 |
11 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
15.39
Eitem
5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4476 Nick Ramsay (Mynwy):
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn nodi’r angen dybryd i adolygu TAN 15.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
0 |
29 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le;
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu llwyddiant TAN15 wrth atal datblygiad amhriodol mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd; a
2. Yn croesawu ymhellach yr ymgynghoriad arfaethedig ar y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer rheoli’r risg o lifogydd ac erydiad arfordirol yng Nghymru i’w gyhoeddi’r haf hwn ac a fydd yn gyfle i egluro am y tro cyntaf y gwelliannau yn y trefniadau i reoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
30 |
0 |
16 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4476 Nick Ramsay (Mynwy):
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu llwyddiant TAN15 wrth atal datblygiad amhriodol mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd; a
2. Yn croesawu ymhellach yr ymgynghoriad arfaethedig ar y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer rheoli’r risg o lifogydd ac erydiad arfordirol yng Nghymru i’w gyhoeddi’r haf hwn ac a fydd yn gyfle i egluro am y tro cyntaf y gwelliannau yn y trefniadau i reoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
30 |
1 |
15 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
16.44
Eitem
6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM4480 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod oddeutu 150,000 o bobl yng Nghymru’n dioddef osteoporosis ag effaith torri asgwrn o ganlyniad i osteoporosis ar gleifion;
Yn nodi’r effaith gadarnhaol y gall Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn ei chael o ran adnabod cleifion sy’n torri esgyrn oherwydd breuder, asesu ar gyfer osteoporosis a chynnig triniaethau gwarchod esgyrn lle bo hynny’n briodol;
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i asesu’r posibilrwydd o ddefnyddio’r model hwn ledled Cymru yn y dyfodol.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
.........................................
17.32
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
17.35
Eitem
7: Dadl fer - a ohiriwyd ers 5 Mai 2010
NDM4468 Nick Ramsay
Wedi’u Dallu gan y Golau: Awyr Dywyll yng Nghymru
.........................................
17.55
Eitem
8: Dadl fer
NDM4479 Brynle Williams (Gogledd Cymru):
Syndrom Ar ôl Polio: Gwaddol y Clefyd sydd wedi mynd yn Angof.
.........................................