Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (66)
Dyddiad:Dydd Mawrth, 20 Mai 2008
Amser: 2.00pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl.
………………………
3.00pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Datblygu Cynaliadwy – Gohiriwyd tan 3 Mehefin 2008
………………………
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Rheoli Perygl Llifogydd ac Adolygiad Pitt - Gohiriwyd tan 21 Mai 2008
………………………
3.18pm
Eitem 5: Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Strategaeth Cludo Nwyddau ar gyfer Cymru
………………………
3.47pm
Eitem 6: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pryderon diweddar ynghylch Gwasanaethau Mamolaeth Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwent
………………………
4.15pm
Eitem 7: Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Cydsyniadau Awdurdod Lleol) (Cymru a Lloegr)
NDM3938 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Gofynion ynghylch Cydsyniad Awdurdodau Lleol) (Cymru a Lloegr) 2008, y gosodwyd drafft ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
4.20pm
Eitem 8: Dadl o dan Reol Sefydlog 22.34 ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig drafft ynghylch Gofal Cartref
NDM3939 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2008
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Daeth y cyfarfod i ben am 4.49pm