Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (67)
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Mai 2008
Amser:
12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Gofynnwyd
un cwestiwn.
………………………………
12.32pm
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd cwestiynau 5 ac 13 i’w hateb yn ysgrifenedig.
………………………………
1.19pm
Eitem
3: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Rheoli Perygl Llifogydd ac Adolygiad Pitt
………………………………
1.54pm
Eitem
4: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Leihau Allyriadau Carbon Preswyl
NDM3937
Mike German (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Leihau Allyriadau Carbon Preswyl yng Nghymru: Adroddiad Cyntaf ar Ymchwiliad
y Pwyllgor Cynaliadwyedd i Leihau Allyriadau Carbon yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
2.31pm
Eitem
5: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar yr Ymchwiliad i Gynllunio Gweithlu yn y Gwasanaeth Iechyd ac ym Maes Gofal Cymdeithasol
NDM3944
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Gynllunio'r Gweithlu yn y Gwasanaeth Iechyd ac ym maes Gofal Cymdeithasol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
3.15pm
Eitem
6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM3943 Kirtsy Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cyfraniad y mae Addysg Uwch yn ei wneud i economi Cymru;
2. Yn nodi’r cyfraniad sylweddol y mae dysgwyr rhan amser yn ei wneud i Addysg Uwch;
3. Yn nodi â phryder bod y bwlch cyllido Addysg Uwch rhwng Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru ac yn Lloegr wedi tyfu i £61 miliwn yn ôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) rhoi sylw i’r bwlch cyllido rhwng Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru ac yn Lloegr; a
b) sicrhau bod parch cydradd ar gyfer dysgwyr rhan amser mewn Addysg Uwch, yn enwedig ym meysydd ffioedd a chefnogaeth i fyfyrwyr.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym
mhwynt 3, dileu 'â phryder’
.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ail-rifo’r
pwyntiau sy'n dilyn:
"Yn mynegi pryder ynghylch y cwymp yn nifer y ceisiadau i Sefydliadau
Addysg Uwch yng Nghymru yn ystod y tymor academaidd nesaf a goblygiadau hyn i’w gallu ariannol, i’w buddsoddiad mewn rhagoriaeth, a’r golled i’r economi gyffredinol yn sgil hynny.”
Gwelliant 3 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 4, dileu (a) ac yn ei le rhoi: 'ymchwilio
i ddulliau arloesol o sicrhau bod cyllid yn cael ei rannu yn y modd mwyaf teg rhwng sefydliadau a myfyrwyr’.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar
ôl is-bwynt b)
"egluro eu polisi ar gyfer cyllido myfyrwyr o Gymru sy'n astudio cyrsiau
mewn mannau eraill yn y DU, nad ydynt ar gael yng Nghymru.”
Gwelliant 5 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
"Yn cymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i "Ddatblygu dysgu ymhlith oedolion”,
fel y nodir yn rhaglen Cymru’n Un.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y pleidleisiau:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
29 |
0 |
12 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
30 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
30 |
0 |
12 |
42 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
30 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
30 |
0 |
13 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3943 Kirtsy Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cyfraniad y mae Addysg Uwch yn
ei wneud i economi Cymru;
2. Yn nodi’r cyfraniad
sylweddol y mae dysgwyr rhan amser yn ei wneud i Addysg Uwch;
3.
Yn nodi bod y bwlch cyllido Addysg Uwch rhwng Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru ac yn Lloegr wedi tyfu i £61 miliwn yn ôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) ymchwilio i ddulliau arloesol o sicrhau bod cyllid yn cael ei rannu yn y modd mwyaf teg rhwng sefydliadau a myfyrwyr; a
b) sicrhau bod parch cydradd ar gyfer dysgwyr rhan amser mewn Addysg Uwch, yn enwedig ym meysydd ffioedd a chefnogaeth i fyfyrwyr.
5. Yn cymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i "Ddatblygu dysgu ymhlith oedolion”, fel y nodir yn rhaglen Cymru’n Un.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
30 |
0 |
13 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
4.15pm
Eitem
7: Dadl fer
NDM3936 Gareth Jones (Aberconwy):
Ysgol
a Chymuned.
………………………………
4.33pm
Cyfnod
Pleidleisio
………………………………