Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (206)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Mehefin
2010
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl.
………………………
14.33
Eitem
2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.50
Eitem
3: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: materion yn ymwneud ag addasu genetig (GM)
………………………
15.35
Eitem
4: Datganiad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: Cyn-filwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yng Nghymru
………………………
16.18
Eitem
5: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella’r ddarpariaeth o feddyginiaethau sydd ar gael i gleifion yng Nghymru
………………………
17.00
Eitem
6: Dadl ar yr astudiaeth ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan Gynulliad Cymru: "Astudiaeth i archwilio'r broses ceisiadau cynllunio yng Nghymru”
NDM4497 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu cyhoeddi "Astudiaeth i Archwilio’r Broses Ceisiadau Cynllunio yng Nghymru”, sef astudiaeth annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad.
2. Yn nodi ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i argymhellion yr astudiaeth i wella’r broses ceisiadau cynllunio cyn gynted â phosibl.
Cafodd copïau dwyieithog o’r dogfennau canlynol eu hanfon dros yr e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 15 Mehefin 2010:
Astudiaeth i Archwilio’r Broses Ceisiadau Cynllunio yng Nghymru
Crynodeb Gweithredol
Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i argymhellion yr astudiaeth ymchwil
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i gytuno ar amserlen i roi'r gwelliannau penodol ar waith yn y broses ceisiadau cynllunio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
18 |
0 |
33 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Comisiwn Cynllunio Seilwaith ac effaith hyn ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
18 |
0 |
34 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod unrhyw newidiadau y bydd yn eu gwneud i'r broses gynllunio yng Nghymru yn sicrhau bod sylwadau cymunedau ac unigolion yn cael eu hystyried yn llawn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
18 |
0 |
34 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4497 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu cyhoeddi "Astudiaeth i Archwilio’r Broses Ceisiadau Cynllunio yng Nghymru”, sef astudiaeth annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad.
2. Yn nodi ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i argymhellion yr astudiaeth i wella’r broses ceisiadau cynllunio cyn gynted â phosibl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
17.33
Y cyfnod pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 17.34
………………..