23/04/2008 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (59)

Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Ebrill 2008
Amser: 12.30pm

Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Gofynnwyd pob cwestiwn. Cafodd cwestiynau 2, 3 a 4 eu trosglwyddo i’w hateb yn ysgrifenedig.

………………………………

12.37pm
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofynnwyd pob cwestiwn. Cafodd cwestiynau 6 a 7 eu tynnu yn ôl a chafodd cwestiwn 5 ei drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig.

………………………………

1.20pm
Eitem 3: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3915 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cytuno bod graddfa'r codiadau yn y dreth gyngor eleni yn ganlyniad i setliad ariannol dirmygus Llywodraeth y Cynulliad i awdurdodau lleol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:


Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)


Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn cydnabod manteision cymdeithasol ac economaidd ad-dalu £100 o’r dreth gyngor ar unwaith i’r holl aelwydydd pensiynwyr yng Nghymru.”

Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)


Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:


"Yn credu bod hanfod system y Dreth Gyngor yn annheg ac yn galw iddi gael ei disodli gan system sy’n seiliedig ar y gallu i dalu.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

32

42

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

26

40

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

38

42

Gwrthodwyd y cynnig.

………………………………

2.24pm
Eitem 4: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3916 William Graham (Dwyrain De Cymru)


Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder am gyflwr amgylcheddau trefol a'r prinder meysydd glas cymunedol yn ein trefi a'n dinasoedd yng Nghymru;

2. Yn gresynu wrth y diffyg blaenoriaeth a roddir i fynd i'r afael â throseddau niwsans cyhoeddus megis taflu sbwriel a chŵn yn baeddu, ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio'i phwerau i hybu defnyddio'r arfau sydd eisoes ar gael i fynd i'r afael â'r materion niwsans cyhoeddus hyn; ac

3. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i weithio'n agosach gyda Llywodraeth Leol i sicrhau y caiff coridorau glas eu creu i roi rhyddid i anifeiliaid gwyllt symud o un cynefin i'r llall a bod meysydd glas cymunedol yn cael eu gwarchod rhag datblygiad trefol.  

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ym mhwynt 1, rhoi "rhai” ar ôl "am gyflwr”.


Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)


Ym mhwynt 1, yn lle "ein” rhoi "rhai o’n”.  


Gwelliant 3 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)


Ym mhwynt 2, yn lle "Yn gresynu wrth y diffyg blaenoriaeth a roddir” rhoi "Yn galw am roi mwy o flaenoriaeth”.


Gwelliant 4 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)


Ym mhwynt 2, yn lle "yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio'i phwerau" rhoi "yn croesawu bwriad Llywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio'i phwerau newydd".

Gwelliant 5 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)


Ym mhwynt 2, dileu "i hybu defnyddio'r arfau sydd eisoes ar gael"


Gwelliant 6 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)


Ym mhwynt 3, ar ôl "Leol" rhoi "i barhau"


Gwelliant 7 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ym mhwynt 3, rhoi "gynyddol" ar ôl "weithio'n"

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

0

42

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

8

42

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

8

42

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

12

41

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

12

42

Derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

12

42

Derbyniwyd gwelliant 6.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

4

41

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3916 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder am gyflwr amgylcheddau trefol a'r prinder meysydd glas cymunedol yn ein trefi a'n dinasoedd yng Nghymru;

2. Yn gresynu wrth y diffyg blaenoriaeth a roddir i fynd i'r afael â throseddau niwsans cyhoeddus megis taflu sbwriel a chŵn yn baeddu, ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio'i phwerau i hybu defnyddio'r arfau sydd eisoes ar gael i fynd i'r afael â'r materion niwsans cyhoeddus hyn; ac

3. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i weithio'n agosach gyda Llywodraeth Leol i sicrhau y caiff coridorau glas eu creu i roi rhyddid i anifeiliaid gwyllt symud o un cynefin i'r llall a bod meysydd glas cymunedol yn cael eu gwarchod rhag datblygiad trefol.  

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

8

42

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

3.16pm
Eitem 5: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM3917 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi â phryder effaith:

a) dyblu'r gyfradd dreth incwm 10c;

b) dyledion cynyddol defnyddwyr;

c) y wasgfa gredyd; ac

2. Yn credu y bydd y rhain yn cael effaith andwyol ar bobl Cymru ac ar economi Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)


Ym mhwynt 1(a), yn lle "dyblu’r” rhoi "diddymu’r”.  


Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)


Ym mhwynt 1(b), dileu "cynyddol”.  

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

"y datganiad gan yr IMF mai ein system bancio ni, o’i barnu yn ôl maint economi’r DU, yw’r system fwyaf agored yn y byd i fenthyg ar gyfradd sy’n uwch na’r brif gyfradd.”

Gwelliant 4 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ym mhwynt 2, yn lle "bydd y rhain yn cael” rhoi "bydd angen cymryd camau i fynd i’r afael â’r”.  

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)


Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn nodi â phryder y bydd unrhyw ddirywiad economaidd yn effeithio’n arbennig o ddifrifol ar bobl economaidd anweithgar.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

4

42

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

12

42

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

30

42

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

12

42

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

30

42

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3917 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi â phryder effaith:

a) dyblu'r gyfradd dreth incwm 10c;

b) dyledion cynyddol defnyddwyr;

c) y wasgfa gredyd; ac

2. Yn credu y bydd y rhain yn cael effaith andwyol ar bobl Cymru ac ar economi Cymru.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

0

42

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

4.09pm
Eitem 6: Dadl fer

NDM3914 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):

Marwolaeth Entrepreneur.

………………………………

4.34pm
Cyfnod Pleidleisio

………………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 4.40pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 29 Ebrill 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr