Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (114)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Chwefror
2009
Amser: 1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
………………………
2.33pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
2.48pm
Eitem
3: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: Y Grŵp Gorchwyl ar yr Iaith Gymraeg ym maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
………………………
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Y diweddaraf am faterion twristiaeth - Gohiriwyd
………………………
3.22pm
Eitem
5: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Pythefnos Masnach Deg
………………………
3.50pm
Eitem
6: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: Cnydau GM
………………………
4.25pm
Pwynt
o drefn
Cododd Alun Cairns bwynt o drefn mewn perthynas â swyddogaethau a chyfrifoldebau Aelodau Cynulliad etholaeth a rhanbarthol.
………………………
4.30pm
Eitem
7: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Cymru) 2009
NDM4146 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2009 mewn perthynas â’r rheoliadau drafft, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Cymru) 2009; a
2. Yn cymeradwyo bod y rheoliadau drafft, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Cymru) 2009 yn cael ei wneud yn unol ag:
a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2009; a
b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 21 Ionawr 2009.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
40 |
0 |
10 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
4.41pm
Eitem
8: Dadl ar Adroddiad Blynyddol Cynllun y Sector Gwirfoddol
NDM4147 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r camau sy’n deillio o’r ddogfen 'Y Trydydd Dimensiwn - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y Cynllun Sector Gwirfoddol’;
2. Yn nodi’r camau a gymerwyd er mwyn rhoi Cynllun y Sector Gwirfoddol ar waith yn ystod y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2008.
3. Yn nodi bod Adroddiad Blynyddol Cynllun y Sector Gwirfoddol wedi’i gyhoeddi.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
mynegi pryder y gallai’r hinsawdd economaidd bresennol arwain at gynnydd yn y galw ar y Trydydd Sector a gostyngiad yn y cyllid sydd ar gael.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i symleiddio'r broses gyllido ar gyfer y Sector Gwirfoddol
drwy gyfuno ffrydiau ariannu unigol a hyrwyddo trefn gyllido tair blynedd fel y norm ar draws y sector cyhoeddus.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4147 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r camau sy’n deillio o’r ddogfen 'Y Trydydd Dimensiwn - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y Cynllun Sector Gwirfoddol’;
2. Yn nodi’r camau a gymerwyd er mwyn rhoi Cynllun y Sector Gwirfoddol ar waith yn ystod y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2008.
3. Yn nodi bod Adroddiad Blynyddol Cynllun y Sector Gwirfoddol wedi’i gyhoeddi.
4. Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i symleiddio'r broses gyllido ar gyfer y Sector Gwirfoddol drwy gyfuno ffrydiau ariannu unigol a hyrwyddo trefn gyllido tair blynedd fel y norm ar draws y sector cyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
……………………………