Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (141)
Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Mehefin
2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf.
.........................................
14.40
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf.
.........................................
Eitem 3: Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno.
.........................................
15:11
Pwynt o drefn
Cododd Peter Black Pwynt o Drefn ynghylch y gwaith o graffu ar eithriadau i Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
15:16
Pwynt o drefn
Cododd Eleanor Burnham Pwynt o Drefn ynghylch y trefniadau ar gyfer cwestiynau atodol.
.........................................
15.19
Eitem
4: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar fyfyrwyr ôl-19 sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
NDM4251 Gareth Jones (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar y ddeiseb ar fyfyrwyr ôl-19 sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mai 2009.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
16.15
Eitem
5: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM4252 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r lefel uchel o ddiweithdra yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru.
2. Yn nodi'r bwriad a ddynodwyd gan y Llywodraeth i wella cadwraeth ynni ac effeithlonrwydd ynni, ac i greu swyddi 'gwyrdd’.
3. Yn nodi bod ansawdd tai a thlodi tanwydd yn ffactorau dylanwadol allweddol o ran iechyd a lles.
4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru lunio strategaeth integredig, drawsbortffolio, i gyflawni’r canlynol:
a) Rhoi hwb i’r diwydiant adeiladu drwy waith adnewyddu ar dai preifat a chymdeithasol, ysbytai ac ysgolion, gan weithio mewn partneriaeth â buddsoddwyr preifat a chyllid preifat lle bo hynny'n briodol;
b) Hyfforddi gweithwyr adeiladu di-waith mewn technegau adeiladu cynaliadwy newydd, a buddsoddi mewn hyfforddwyr a hyfforddeion;
c) Mynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy adnewyddu cartrefi gan ganolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni; a
d) Gwella’r stoc dai yng Nghymru a chyflawni gwelliannau mewn iechyd a lles yn sgil hyn.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
"4)
Yn croesawu strategaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni’r canlynol:
a)
Sefydlu Cronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol i ysgogi buddsoddiadau mawr mewn tai, ysbytai ac ysgolion;
b)
Cefnogi sgiliau adeiladu newydd drwy’r Pecyn Cymorth Gallu Gwneud a’r Strategaeth Swyddi Gwyrdd sydd ar fin ymddangos;
c)
Ymgynghori’n ddiweddar ar y Cynllun Cenedlaethol Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni newydd a chynigion i dargedu’n well y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref i’r rheini sy’n dioddef o dlodi tanwydd, a
d)
Dwyn ymlaen £40 miliwn o’r grant tai cymdeithasol, sefydlu cynllun peilot gwerth £1 filiwn ar ddefnyddio ynni’n effeithlon ar gyfer pobl sy’n prynu am y tro cyntaf a sicrhau £42 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol
gyda’r nod o wella ac adeiladu tai mwy fforddiadwy yng Nghymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
35 |
0 |
14 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4252 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r lefel uchel o ddiweithdra yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru.
2. Yn nodi'r bwriad a ddynodwyd gan y Llywodraeth i wella cadwraeth ynni ac effeithlonrwydd ynni, ac i greu swyddi 'gwyrdd’.
3. Yn nodi bod ansawdd tai a thlodi tanwydd yn ffactorau dylanwadol allweddol o ran iechyd a lles.
4) Yn croesawu strategaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni’r canlynol:
a) Sefydlu Cronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol i ysgogi buddsoddiadau mawr mewn tai, ysbytai ac ysgolion;
b) Cefnogi sgiliau adeiladu newydd drwy’r Pecyn Cymorth Gallu Gwneud a’r Strategaeth Swyddi Gwyrdd sydd ar fin ymddangos;
c) Ymgynghori’n ddiweddar ar y Cynllun Cenedlaethol Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni newydd a chynigion i dargedu’n well y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref i’r rheini sy’n dioddef o dlodi tanwydd, a
d) Dwyn ymlaen £40 miliwn o’r grant tai cymdeithasol, sefydlu cynllun peilot gwerth £1 filiwn ar ddefnyddio ynni’n effeithlon ar gyfer pobl sy’n prynu am y tro cyntaf a sicrhau £42 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol gyda’r nod o wella ac adeiladu tai mwy fforddiadwy yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
35 |
4 |
10 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
17.16
Eitem
6: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4250 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu’r mynediad anghyfartal ymhlith cleifion yng Nghymru at wasanaethau gofal lliniarol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu’r cyllid a’r gefnogaeth i hosbisau.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
10 |
5 |
34 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
"Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi’r camau sydd eisoes yn cael
eu cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy waith y Bwrdd Gweithredu Gofal Lliniarol i hybu a gwella mynediad teg at ofal lliniarol o safon uchel i gleifion yng Nghymru.
2.
Yn croesawu’r £4 miliwn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei neilltuo i wella’r gwasanaethau hyn yn 2009-10.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
39 |
0 |
10 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4250 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi’r camau sydd eisoes yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy waith y Bwrdd Gweithredu Gofal Lliniarol i hybu a gwella mynediad teg at ofal lliniarol o safon uchel i gleifion yng Nghymru.
2. Yn croesawu’r £4 miliwn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei neilltuo i wella’r gwasanaethau hyn yn 2009-10.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
40 |
0 |
9 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
18.04
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
18.07
Eitem
7: Dadl fer
NDM4249 Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Y Dafarn yw Calon Cymdeithas.
.........................................