Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (83)
Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Medi 2008
Amser:
12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Gofynnwyd y 4 cwestiwn i’r Cwnsler Cyffredinol.
Cafodd cwestiynau 1 a 2 eu grwpio.
………………………………
12.39pm
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf.
………………………………
1.23pm
Eitem
3: Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 5 ac 8 gan y Dirprwy Wedinidog dros Dai.
………………………………
2.15pm
Eitem
4: Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Cwpan Ryder
………………………………
Eitem 5: Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar yr ymchwiliad i gynigion ymgynghori Llywodraeth y Cynulliad ynghylch strwythur y GIG yng Nghymru
NDM4004 Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar gynigion ymgynghori Llywodraeth y Cynulliad ynghylch Strwythur y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mehefin 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
3.33pm
Eitem
6: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4005 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gresynu wrth ymateb araf Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r argyfwng economaidd rhyngwladol a’r effeithiau tebygol ar economi Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymateb i’r argyfwng economaidd rhyngwladol
mewn ffordd a fydd yn lliniaru’r effeithiau ar bobl Cymru, drwy newid ffocws y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref er mwyn iddo dargedu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd.”
Gohiriwyd y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymateb i’r argyfwng economaidd rhyngwladol
mewn ffordd a fydd yn lliniaru’r effeithiau ar bobl Cymru, drwy wella’r cyngor a’r gefnogaeth i’r rheini sydd mewn perygl o golli eu cartref.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymateb i’r argyfwng economaidd rhyngwladol
mewn ffordd a fydd yn lliniaru’r effeithiau ar bobl Cymru, drwy flaenoriaethu buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau, wrth i brisiau tanwydd godi, bod dewisiadau ymarferol ar gael yn hytrach na’r car.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig.
………………………………
4.33pm
Eitem
7: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM4006 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru ar hyn o bryd;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Ddatblygu’r cynllun Cymorth Prynu yn gynllun gweithwyr allweddol sydd wedi’i gyllido’n llawn.
b) Dechrau treial cyfyngedig o swyddogion galluogi tai trefol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gan
fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
2.
"Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i:
a)
datblygu’r cynllun Cymorth Prynu
b) cefnogi swyddogion galluogi tai fforddiadwy
mewn ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru.”
Gohiriwyd y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
36 |
0 |
14 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2a:
Dileu popeth ar ôl 'datblygu’r cynllun Cymorth Prynu yn’
a rhoi yn ei le 'becyn wedi’i gyllido o gynlluniau perchentyaeth
gost isel y gellid eu defnyddio’n hyblyg gan gymdeithasau tai sy’n gweithio gyda phartneriaid allweddol’
Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"c) Datblygu strategaeth sydd wedi’i chyllido’n
llawn i ailddefnyddio cartrefi gwag.”
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:"Rhoi
cronfeydd ychwanegol i gyllidebau tai cymdeithasol a chanolradd.”
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Datblygu
cynlluniau ar gyfer marchnad dai eilaidd gynaliadwy.”
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4006 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru ar hyn o bryd;
2. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) datblygu’r cynllun Cymorth Prynu
b) cefnogi swyddogion galluogi tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
0 |
14 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
5.30pm
Cyfnod
pleidleisio
………………………………
5.32pm
Eitem
8: Dadl fer
Mike German (Dwyrain De Cymru):
100% erbyn 2050.
………………………………