Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (164)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Tachwedd
2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 4 a 5 yn ôl.
………………………
14.25
Eitem
2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.48
Eitem
3: Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan
………………………
15.56
Eitem
4: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: y wybodaeth ddiweddaraf am y Comisiwn Hinsawdd
………………………
16.18
Eitem
5: Dadl ar y cymorth a ddarperir i fusnesau
NDM4331 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu sgiliau ar gyfer busnesau drwy Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru a Rhaglen Datblygu'r Gweithlu; a
2. Yn canmol cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer sgiliau yn y gweithle yn ystod y dirwasgiad.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Yn lle 'cefnogi’ rhoi 'nodi’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le:
'Yn credu bod angen i strategaeth sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru ganolbwyntio’n gliriach ar anghenion economi Cymru ac yn enwedig creu mwy o fentrau cynhenid.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na fydd yr enillion effeithlonrwydd arfaethedig o 5% i’r cyllidebau ôl-16 ac addysg uwch yn helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno’i strategaeth sgiliau ac mae’n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wrthdroi’r cynnig hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig.
NDM4331
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu sgiliau ar gyfer busnesau drwy Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru a Rhaglen Datblygu'r Gweithlu; a
2. Yn canmol cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer sgiliau yn y gweithle yn ystod y dirwasgiad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
15 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
16.56
Eitem
6: Dadl ar "Cymru’n Un”
NDM4332 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r camau sy’n parhau i gael eu cymryd i weithredu Rhaglen Cymru’n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Dileu popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol Cymru:” a rhoi yn ei le:
"Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno gwelliannau sylweddol fel yr amlinellwyd yn y rhaglen Cymru’n Un, yn arbennig y rhai hynny sy’n ymwneud â’r economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na fydd y Rhaglen Cymru’n Un yn cael ei chyflawni oni cheir newid mewn ffocws wrth baratoi’r gyllideb derfynol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
1 |
32 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn bod mewn sefyllfa well i gyflawni’r ymrwymiadau iechyd yn y rhaglen Cymru’n Un, ymchwilio i’r honiad nad yw hyd at un rhan o bump o’r gyllideb iechyd yn cael ei gwario’n effeithiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru adolygu ei rhaglen Cymru’n Un yng ngoleuni’r amgylchiadau economaidd presennol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig.
NDM4332 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r camau sy’n parhau i gael eu cymryd i weithredu Rhaglen Cymru’n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
15 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
.........................................