Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (123)
Dyddiad: Dydd Mercher, 25 Mawrth 2009
Amser:
1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Gofynnwyd y 4 cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl.
.........................................
1.35pm
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig.
Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf.
.........................................
2.13pm
Eitem
3: Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Cafodd cwestiynau 3, 5 a 6 eu grwpio i’w hateb. Atebwyd cwestiwn 8 gan y Dirprwy Weinidog dros Dai.
.........................................
2.50pm
Eitem
4: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar roi’r cytundeb llwyth gwaith athrawon ar waith
NDM4184 Gareth Jones (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu, Rhoi'r Cytundeb Llwyth Gwaith Athrawon ar Waith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
3.39pm
Eitem
5: Dadl ar adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei ymchwiliad i’r adolygiad o Echel 2 Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013
NDM4185 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei Ymchwiliad i’r Adolygiad o Echel 2 Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
4.18pm
Eitem
6: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4186 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1) Yn gresynu bod cyn lleied o’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru wedi manteisio ar fenthyciadau Banc Buddsoddi Ewrop.
2) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y benthyciadau hyn er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r dirwasgiad presennol.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
nodi na fydd mesurau o’r fath i helpu i fynd i’r afael â’r dirwasgiad yn effeithiol oni chânt eu gweithredu ar y cyd â strategaeth ehangach i wella sefyllfa ariannol y sector cyhoeddus, yn cynnwys ymgysylltu’n
fwy trylwyr â’r sector preifat a’r trydydd sector er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer prosiectau cyfalaf.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
31 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig.
.........................................
5.11pm
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
5.12pm
Eitem
7: Dadl fer
NDM4183 Ann Jones (Dyffryn Clwyd):
Diogelwch ar y Ffyrdd: Y Ffyrdd a’r Llwybrau sydd angen eu hatgyweirio.
………………………………