Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (98)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2008
Amser: 1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Atebwyd y 15 cwestiwn. Tynnwyd cwestiynau 1,2,6,9,12,13 a 15 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 4.
………………………
2.14pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
2.20pm
Pwynt o drefn
David Melding: Aelodau’r Cynulliad yn gallu dwyn Prif Weinidog Cymru a’r Llywodraeth i gyfrif.
………………………
Eitem 3: Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Rhaglen Reilffyrdd ac Ail-flaenoriaethu’r Flaenraglen Cefnffyrdd - Gohiriwyd tan 2 Rhagfyr
………………………
2.22pm
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: Archwiliad Iechyd y Polisi Amaethyddol Cyffredin
………………………
2.52pm
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Addysg Uwch
………………………
Eitem 6: Dadl ar gaffael cynaliadwy
NDM4061 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r gwaith a wneir gan Werth Cymru Llywodraeth y Cynulliad o ran cefnogi’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon a mwy effeithiol yng Nghymru drwy well caffael cyhoeddus.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r angen i ddarparu hyfforddiant gwell i swyddogion caffael yn y sector cyhoeddus er mwyn annog rhagor o fusnesau bach a chanolig i dendro am gontractau sector cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
26 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â rhybudd y gall arbedion effeithlonrwydd a mesurau arbed costau arwain y sector cyhoeddus i fynd am gontractau mwy na fyddant o reidrwydd o fudd i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
26 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gall caffael cyhoeddus gyflwyno cyfle a rennir i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn ystod y dirwasgiad sydd ar ddod.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
26 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddefnyddio gweithdrefnau caffael cyhoeddus i gynyddu buddsoddiad mewn mesurau effeithlonrwydd ynni a fydd yn helpu i leihau nifer yr aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
26 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod y broses caffael cyhoeddus yn ystyried cymwysterau amgylcheddol contractwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
26 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
32 |
9 |
0 |
41 |
Derbyniwyd y cynnig.
Daeth y cyfarfod i ben am 4.58pm