Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (165)
Dyddiad: Dydd Mercher, 25 Tachwedd
2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 6 a 9 yn ôl. Cafodd cwestiwn 8 ei drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.
.........................................
14.14
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf.
.........................................
15.01
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Cynllun Addysg Uwch ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain
.........................................
15.54
Eitem
4: Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Gofynnwyd y cwestiwn
.........................................
15.55
Eitem
5: Datganiad gan y Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
.........................................
16.59
Eitem
6: Dadl ar Araith y Frenhines
NDM4333 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2009/2010.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu rhoi sylw i’r problemau a wynebir gan bobl Cymru a’r DU yn ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2009/2010.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
26 |
0 |
22 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod llai na 70 diwrnod deddfu ar ôl cyn diddymu’r Senedd ac yn credu ei bod yn annhebygol iawn y cyflawnir yr agenda ddeddfwriaethol ddrafft yn Araith y Frenhines.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu nad yw’r Mesur Seneddol ynghylch Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu yn mynd yn ddigon pell ar drywydd diwygiadau gwleidyddol hanfodol er mwyn adfer ymddiriedaeth yn y system wleidyddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg pwerau fframwaith dros ddiwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yn y Mesur Seneddol ynghylch Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
9 |
23 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg pwerau fframwaith dros gyllido a llywodraethu ysgolion yn y Mesur Seneddol ynghylch Plant, Ysgolion a Theuluoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg pwerau fframwaith dros blismona yn y Mesur Seneddol ynghylch Troseddau a Diogelwch.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid defnyddio’r Mesur Seneddol ynghylch Troseddau a Diogelwch i ddatblygu strategaeth ar gyfer datganoli cyfiawnder i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
5 |
9 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwellaint 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid ymdrechu i sicrhau bod darpariaeth band eang yng Nghymru cystal â’r ddarpariaeth yn Lloegr yn y Mesur Seneddol ynghylch yr Economi Ddigidol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r Mesur Seneddol ynghylch yr Economi Ddigidol sefydlu Consortiwm Newyddion a Gyllidir yn Annibynnol yng Nghymru ac y dylai corff yng Nghymru wneud y penderfyniadau comisiynu sy’n berthnasol i hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
40 |
9 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddiogelu gwasanaethau rheng flaen mewn unrhyw ymgais i leihau’r diffyg yn y gyllideb o ganlyniad i’r Mesur Seneddol ynghylch Cyfrifoldeb Ariannol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg pwerau fframwaith dros feini prawf cymhwyso ar gyfer gofal personol yn y Mesur Seneddol ynghylch Gofal Personol yn y Cartref.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4333 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2009/2010;
2. Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu rhoi sylw i’r problemau a wynebir gan bobl Cymru a’r DU yn ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2009/2010;
3. Yn credu bod yn rhaid ymdrechu i sicrhau bod darpariaeth band eang yng Nghymru cystal â’r ddarpariaeth yn Lloegr yn y Mesur Seneddol ynghylch yr Economi Ddigidol; a
4. Yn credu y dylai’r Mesur Seneddol ynghylch yr Economi Ddigidol sefydlu Consortiwm Newyddion a Gyllidir yn Annibynnol yng Nghymru ac y dylai corff yng Nghymru wneud y penderfyniadau comisiynu sy’n berthnasol i hyn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
18 |
5 |
26 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
18.36
Cyfnod
Pleidleisio
.........................................
18.39
Eitem
7: Dadl fer
NDM4334 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ar y trywydd cywir? Gwasanaethau trenau yng ngorllewin Cymru.
.........................................